Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Pwll Padlo Llandrillo-yn-Rhos


Summary (optional)
start content

Lleoliad:  Pwll Padlo Llandrillo-yn-Rhos, Ffordd yr Abaty, Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn LL28 4NG.

Mae’r pwll padlo wedi’i leoli mewn man chwarae poblogaidd sy’n cynnwys sleidiau, siglenni, weiren wib ac offer chwarae eraill, yn ogystal â man gwelltog o faint da. Mae’r safle hefyd yn elwa o gael nifer o fyrddau picnic ac mae ffens derfyn ddiogel o’i amgylch. Er hwylustod, mae toiledau wedi’u lleoli o fewn tir y cyfleuster.

Mae lluniaeth ar gael o fewn tafliad carreg yn yr amrywiol gaffis, siopau hufen iâ a siopau eraill sydd wedi'u lleoli o fewn y gyrchfan hynod boblogaidd hon. Mae yna safleoedd cludiant cyhoeddus ardderchog yn y dref sy’n ei gwneud yn hawdd i chi gyrraedd y pwll padlo.

I’r rhai hynny ohonoch chi sy’n teithio mewn car, mae yna Faes Parcio Talu ac Arddangos gerllaw ar gornel Ffordd yr Abaty a Colwyn Avenue.

O ganlyniad i waith cynnal a chadw dyddiol bydd y pwll nofio ar agor rhwng 10am a 7pm.

Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol/sylwadau am byllau padlo, anfonwch neges e-bost at hamdden.leisure@conwy.gov.uk neu ffoniwch 0300 4569 525.

Rheolau pyllau padlo plant

  • Nid yw’r cyfleuster hwn yn cael ei oruchwylio’n swyddogol
  • Rhaid i blant ifanc gael eu goruchwylio gan oedolyn
  • Dim rhedeg yn y pwll nac o’i amgylch
  • Dim deifio
  • Dim bwyd na diod yn y dŵr
  • Dim gwydr o amgylch y pwll
  • Peidiwch â gadael ysbwriel yma
  • Dim cŵn o gwbl yn yr ardal yma
  • Gwisgwch esgidiau pwll nofio/glan môr priodol

Cwestiynau cyffredin

Pa mor fawr ydi pyllau padlo Conwy? 

Meintiau'r pyllau padlo
     Pwll padlo               Mesuriadau                       Faint o ddŵr mae'n ei ddal         
 Craig y Don                                     116m x 21m x 0.66m                  1608 metr ciwbig / 12,060 galwyn
 Llanfairfechan   17m x 6m x 0.8m   82 metr ciwbig / 615 galwyn
 Penmaenmawr   11m x 8m x 0.33m  29 metr ciwbig / 217 galwyn
 Llandrillo-yn-Rhos  17m x 8m x 0.5m  68 metr ciwbig / 510 galwyn

Pa mor aml mae’ch staff yn ymweld â'r pyllau padlo?

Bydd aelod o’r tîm yn ymweld â phob pwll padlo bob dydd.

Sut ydych chi’n glanhau’r pyllau?

Mae’r tasgau dyddiol yn cynnwys:

  • adlifo - dyma'r broses o wrthdroi llif y dŵr i fflysio unrhyw halogyddion o’r hidlydd
  • gwneud yn siŵr bod lefel y dŵr yn iawn
  • gwirio ac ychwanegu at lefel y diheintydd cemegol
  • glanhau’r pwll a’r ardal ger y pwll

Sut a pha mor aml ydych chi’n profi’r dŵr?

Rydym ni’n cymryd darlleniadau clorin a pH ddwywaith y dydd. Mae cwmni annibynnol yn cynnal profion microbiolegol bob mis. 

Pam fod y pyllau nofio yn agor am 10am?

Mae hyn yn rhoi amser i’n tîm wneud y tasgau dyddiol (uchod).

Ydi’r pyllau'n cael eu gwagio a’u hail-lenwi dros yr haf?

Anaml iawn y mae’n rhaid gwagio ac ail-lenwi pyllau padlo Craig y Don, Penmaenmawr a Llandrillo-yn-Rhos. Oherwydd cylchrediad cyfyngedig, caiff pwll padlo Llanfairfechan ei wagio a’i ail-lenwi’n amlach.

end content