Gwybodaeth am newidiadau i ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn sir Conwy.
Diweddariadau:
- Hydref 2024:
- Bydd mwy o doiledau cyhoeddus yn aros ar agor dros y gaeaf diolch i nawdd gan Gynghorau Tref a Chymuned. Bydd ugain o doiledau cyhoeddus yn aros ar agor yn y sir dros y gaeaf, a phedwar arall ar agor rhwng y Pasg a mis Medi nesaf. Bydd 19 o doiledau cyhoeddus mewn adeiladau Cyngor ar gael i’w defnyddio, ynghyd â thoiledau mewn busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer ein cynllun toiledau cymunedol. Hefyd mae pump o doiledau cyhoeddus a reolir gan Gynghorau Tref a Chymuned ym Mhenmachno, Dolwyddelan, Llanfairfechan, Llansannan a Llangernyw, ac ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rheiny
- Medi 2024:
- Rydym yn trafod nawdd ar gyfer toiledau â Chynghorau Tref a Chymuned. Bydd y toiledau cyhoeddus yn aros ar agor am gyfnod dros dro.
- Gorffennaf 2024:
- Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi newidiadau i wasanaethau toiledau cyhoeddus, gyda rhai toiledau’n cau tra bod eraill mewn adeiladau’r Cyngor yn cael eu gwneud ar gael i’r cyhoedd.
- Bydd 21 o gyfleusterau toiledau cyhoeddus yn parhau ar agor ar draws y sir, rhai ar sail dymhorol o’r Pasg tan wythnos gyntaf mis Medi. Yn y cyfamser, bydd 19 o doiledau mewn adeiladau Cyngor ar gael i bawb eu defnyddio, ynghyd â thoiledau mewn busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Toiledau Cymunedol y Cyngor.
Gwybodaeth gefndir:
Mae’n rhaid i bob un o wasanaethau’r Cyngor ddod o hyd i arbedion ariannol sylweddol ar gyfer 2024-2025. At hynny, rydym wedi adolygu’r dewisiadau ar gyfer toiledau cyhoeddus. Nid oes gennym bellach y gyllideb i gymorthdalu toiledau cyhoeddus, felly mae’n rhaid i ni adennill y costau gweithredu drwy godi tâl ar bobl am eu defnyddio
Rydym wedi ystyried mor aml y defnyddir y cyfleusterau, ymhle mae’r toiledau eraill sydd ar gael, ac mor aml y caiff toiledau eu fandaleiddio.
Mae cau toiledau’n benderfyniad anodd i ni ei wneud, ac rydym yn deall y bydd pobl yn bryderus am hyn.
Cymeradwywyd Strategaeth Toiledau Lleol (dogfen PDF, 0.6MB) y Cyngor gan Gabinet y Cyngor ym mis Tachwedd 2023. Bydd adroddiad cynnydd dros dro yn cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi 2 flynedd ar ôl cymeradwyo’r strategaeth.
Cwestiynau ac atebion:
content
Bydd 24 o doiledau cyhoeddus yn dal ar agor, rhai ohonynt yn dymhorol. Bydd toiledau mewn 19 o adeiladau’r Cyngor ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio, yn ogystal â thoiledau mewn busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer ein cynllun toiledau cymunedol.
content
Rydym wedi ystyried mor aml mae pobl yn defnyddio’r toiledau ac mor agos ydynt at doiledau cyhoeddus eraill sydd ar gael. Rydym hefyd wedi ystyried mor aml y caiff cyfleusterau eu fandaleiddio a’r costau trwsio parhaus sy’n deillio o hynny. Cawsom hefyd gefnogaeth ariannol gan rai Cynghorau Tref a Chymuned i gadw mwy o doiledau ar agor.
content
Rydym wedi sicrhau y bydd y toiledau sydd gennym mewn mannau sy’n boblogaidd â thwristiaid ar agor yn ystod y tymor gwyliau, ond efallai na fydd hynny’n cynnwys yr holl doiledau sydd ar gael ar hyn o bryd.
content
Fe gynhaliom asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y Strategaeth Toiledau Lleol. Wrth weithredu’r strategaeth honno rydym yn darparu toiledau yn adeiladau’r Cyngor ac yn gweithio i gynyddu nifer y busnesau addas sy’n cofrestru ar gyfer y cynllun toiledau cymunedol. Bydd hyn oll yn gwneud y gwasanaeth toiledau cyhoeddus yn well i’r holl ddefnyddwyr – bydd mwy na 45 o doiledau cyhoeddus ar gael i’w defnyddio.
content
Rydym yn ystyried codi tâl yn y toiledau a fydd yn dal ar agor na chodir tâl ar eu cyfer ar hyn o bryd, ond mae costau ynghlwm â hyn a bydd yn cymryd peth amser.
content
Medrwch. Mae’r toiledau hyn wastad wedi bod ar gael i bobl sy’n defnyddio’r adeilad a bydd y cyhoedd hefyd yn gallu eu defnyddio o hyn ymlaen. Mae toiledau cyhoeddus ar gael i’w defnyddio yn 19 o adeiladau Cyngor.
content
Cynghorau Tref a Chymuned sy’n gyfrifol am bump o doiledau cyhoeddus yn y sir, ym Mhenmachno, Dolwyddelan, Llanfairfechan, Llansannan a Llangernyw. Rydym hefyd yn derbyn nawdd gan Gyngor Tref Abergele, Cyngor Tref Bae Colwyn, Cyngor Tref Conwy, Cyngor Tref Llandudno, Cyngor Cymuned Llanfair Talhaearn a Chyngor Cymuned Trefriw i gadw’r toiledau ar agor yn yr ardaloedd hynny.
content
Bydd y trefniant sydd gennym â Chynghorau Tref a Chymuned yn para tan ddiwedd mis Mawrth 2025. Byddwn yn trafod y trefniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn y cyfamser.
content
Bydd rhywfaint o doiledau ar agor o’r Pasg tan wythnos gyntaf mis Medi - bydd hynny’n golygu eu bod yn rhatach eu gweithredu ond bod modd eu cadw ar agor yng nghyfnod prysuraf y flwyddyn. Mae’r toiledau yn adeiladau’r Cyngor a busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun toiledau cymunedol ar agor gydol y flwyddyn.
content
Gwyddom nad yw pawb yn talu ar hyn o bryd - mae pobl yn dal y drws ar agor i adael i’r defnyddiwr nesaf ddod i mewn am ddim a defnyddio’r cyfleusterau a’r papur toiled ac ati. Ni fyddai cynyddu’r tâl yn newid hynny, a byddem yn dal i golli’r incwm sydd ei angen i gynnal y gwasanaeth.
Nesaf: Cynllun Toiledau Cymunedol: gwybodaeth i fusnesau