Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Hamdden, Chwaraeon ac Iechyd Toiledau cyhoeddus Cynllun Toiledau Cymunedol: gwybodaeth i fusnesau

Cynllun Toiledau Cymunedol: gwybodaeth i fusnesau


Summary (optional)
start content

Mae’r Cynllun Toiledau Cymunedol yn cael ei ariannu a’i reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae’n caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio cyfleusterau toiled busnesau lleol cymeradwy yn ystod eu horiau agor.

Mae busnesau sy’n cofrestru ar gyfer y cynllun yn cytuno i sicrhau bod eu toiledau ar gael i’r cyhoedd am ddim heb unrhyw ddisgwyliad y bydd defnyddwyr yn prynu neu’n defnyddio eu gwasanaethau.

Gwybodaeth am y cynllun

Manteision i fusnesau

Mae busnesau sy’n rhan o’r cynllun toiledau cymunedol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac yn cael eu hybu fel lleoliad toiledau cymunedol.

Mwy o ymwelwyr yn y busnes wrth i fwy o bobl fynd i mewn i’r eiddo a gallent brynu neu ddefnyddio’r gwasanaeth.

Bydd yn ofynnol i aelodau’r cynllun gadw eu toiledau yn ddiogel, glân, hygyrch ac wedi eu stocio’n dda a byddant yn cael taliad blynyddol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i uchafswm o £500 (pro rata).

Sut i ymgeisio

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r cynllun yn Sir Conwy, gwnewch gais ar-lein, neu llenwch y ffurflen gais ac anfonwch e-bost at affch@conwy.gov.uk neu anfonwch drwy'r post at:  Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Cynllun Toiledau Cymunedol, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN.

Gwneud cais ar-lein

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Pan fyddwn yn cael eich ffurflen gais, bydd swyddogion yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau yn cysylltu â chi i drafod y cais ac asesu eich addasrwydd i ymuno â’r cynllun.

Mae’r meini prawf asesu yn ystyried oriau agor, lleoliad, pellter i doiledau cyhoeddus a busnesau eraill ar y cynllun, math, cyflwr ac ansawdd y cyfleusterau toiled a pholisi yswiriant atebolrwydd cyhoeddus addas a chyfredol.

Wrth ymuno â’r cynllun, mae’n rhaid i fusnesau:

  • gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol
  • arddangos arwydd yn ffenestr y busnes, a ddarparwyd gan y Cyngor, gan nodi cyfranogiad yn y cynllun toiledau cymunedol
  • cytuno i gael eu harchwilio o leiaf unwaith y flwyddyn, i asesu addasrwydd parhaus ar gyfer aelodaeth y cynllun

Dogfennau

end content