Meddalwedd Boardmaker
Mae Boardmaker yn feddalwedd cyfrifiadurol sy’n cynnwys miloedd o symbolau cyfathrebu lluniau y gellir eu defnyddio gydag unrhyw un a allai fod angen cefnogaeth ychwanegol gyda chyfathrebu, gan gynnwys:
- Plant ac oedolion gydag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig, anawsterau dysgu a/neu anableddau corfforol
- Unrhyw un gyda Nam Ieithyddol Penodol
- Pobl sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol
- Unrhyw un sydd ag anabledd neu nam sy'n effeithio ar gyfathrebu neu gof
- Pobl hŷn gyda rhai mathau o ddementia neu unrhyw un sydd wedi colli rhywfaint o sgiliau iaith ar ôl strôc
Mae Boardmaker ar gael i'w ddefnyddio, yn rhad ac am ddim, yn Llyfrgelloedd Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno a Llanrwst.
Gallwch archebu sesiwn gydag aelod o staff i ddysgu sut i ddefnyddio Boardmaker, yna ei ddefnyddio pryd bynnag y byddwch angen i argraffu eich symbolau.
Cysylltwch â'r llyfrgell i gael rhagor o wybodaeth, neu i gadw lle ar gyfrifiadur cyn eich ymweliad.
Technoleg Gynorthwyol
I wneud ein cyfrifiaduron yn haws i'w defnyddio, mae gennym ystod o feddalwedd a chaledwedd ar gael, gan gynnwys, monitoriaid sgrin mawr a desgiau y gellir addasu eu huchder, llygod pelen lwybro, a Bysellfyrddau Botymau Mawr sydd yn haws eu gweld.
Mae cyfrifiaduron gyda thechnoleg gynorthwyol ar gael yn:
Llyfrgell Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Bae Cinmel, Llandudno, Llanrwst, a Phenmaenmawr.