Gall mynd ar-lein eich helpu i:
- Gadw mewn cysylltiad â'ch ffrindiau a'ch teulu
- Rheoli eich arian
- Chwilio am swyddi
- Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill
- Dysgu mwy am y pethau sydd o ddiddordeb i chi
Os hoffech chi neu rywun rydych yn ei adnabod fynd ar-lein, neu angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol i ddefnyddio’r we neu e-bost, mae cymorth am ddim ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol:
Rydym yn eich cynghori i archebu, felly cysylltwch â’r llyfrgell i gadarnhau eich archeb i osgoi cael eich siomi.
Nid oes angen i chi fod â chyfrifiadur neu liniadur eich hun adref. Fel aelod o’r llyfrgell gallwch ddefnyddio un sy'n cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim yn y llyfrgell.
Cyrsiau TG
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyrsiau llythrennedd digidol am ddim a gaiff eu cyflwyno mewn llyfrgelloedd gan Goleg Llandrillo.
Cysylltwch â: Carrie Smith, Canolfan Ddysgu'r Bae, Llyfrgell Bae Colwyn 01492 546666 Est 1537.