Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor hyrwyddo a gwella llwybrau a chyfleusterau Teithio Llesol.
Mae’n rhaid i ni ofalu bod cynlluniau ffyrdd newydd (gan gynnwys cynlluniau gwella ffyrdd a phalmantau) yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr.
Mae’n rhaid i ni hefyd baratoi mapiau sy’n dangos y llwybrau sy’n bodoli a rhai posib’ at y dyfodol ar gyfer Teithio Llesol.
Rydym ni wedi creu mapiau o lwybrau sy’n bodoli (LINK) ac wedi ystyried llwybrau at y dyfodol.
Y trefi a phentrefi yng Nghonwy sy’n bodloni gofynion Llywodraeth Cymru fel Ardaloedd Teithio Llesol yw:
- Abergele a Phensarn
- Bae Colwyn
- Conwy
- Deganwy
- Hen Golwyn
- Llandrillo-yn-Rhos
- Llandudno
- Llanfairfechan
- Llanrwst
- Llansanffraid Glan Conwy
- Llysfaen
- Penmaenmawr
- Towyn a Bae Cinmel
Mae’r rhestr hon yn seiliedig ar faint y boblogaeth ac yn cael ei rhoi i ni gan Lywodraeth Cymru.
Cysylltu â ni:
Os oes gennych chi unrhyw adborth am lwybrau sy’n bodoli’n barod neu os hoffech chi awgrymu llwybr neu gyswllt newydd, cysylltwch â ni:
Dweud Eich Dweud – Teithio Llesol Conwy – Commonplace
Amserlen
Rydym ni wedi bod yn gweithio yn ôl amserlen sydd wedi’i phennu gan y Ddeddf Teithio Llesol:
- Gaeaf 2015/2016 Ymgynghori â’r cyhoedd ar lunio mapiau o lwybrau sy’n bodoli
- Ionawr 2016 Cyflwyno’r mapiau o lwybrau sy’n bodoli i Lywodraeth Cymru.
- Awst 2016 Derbyn cymeradwyaeth gan y gweinidogion ar gyfer ein mapiau o lwybrau sy’n bodoli.
- Hydref 2016 Ymgynghori â’r cyhoedd ar y map rhwydwaith integredig a llwybrau newydd posib’.
- Medi 2017 Cyflwyno’r map rhwydwaith integredig ac ailgyflwyno’r map o lwybrau sy’n bodoli i Lywodraeth Cymru.
- Rhagfyr 2020 Ailgyflwyno’r map o lwybrau sy’n bodoli a’r map rhwydwaith integredig i Lywodraeth Cymru.
Mae’n rhaid i ni gyflwyno ein map o lwybrau sy’n bodoli a’r map rhwydwaith integredig i Lywodraeth Cymru’n rheolaidd er mwyn cael eu cymeradwyaeth. Mae hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru fonitro ein cynnydd ar ddarparu llwybrau sy’n caniatáu Teithio Llesol.
Llywodraeth Cymru: Canllawiau a ffurflenni ar gyfer cynllunio a dylunio rhwydweithiau o lwybrau cerdded a beicio.