Ein dyletswydd gyntaf ar gyfer Teithio Llesol oedd paratoi mapiau o lwybrau sy’n bodoli eisoes sy’n cyd-fynd â’r canllawiau newydd ar Deithio Llesol.
Fe wnaethom ni asesu cyfleusterau fel llwybrau beics a palmantau, yn unol â’r canllawiau newydd ar Deithio Llesol. Roedd hyn yn golygu na allem ni gynnwys rhai cyfleusterau ar y mapiau newydd o’r rhwydwaith sy’n bodoli eisoes.
Fe wnaethom ni gynnal ymgynghoriad ar y llwybrau sy’n bodoli, a ddaeth i ben ym mis Ionawr 2016. Fe gafodd y mapiau o lwybrau wedi’u harchwilio eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ac fe gawsant eu cymeradwyo ym mis Awst 2016.
Mapiau Llwybrau sy’n Bodoli
Adroddiad Cynnydd Blynyddol i Lywodraeth Cymru
Cysylltu â ni:
Os hoffech chi roi adborth i ni am lwybrau sy’n bodoli’n barod neu awgrymu llwybr neu gyswllt newydd, cysylltwch â ni:
Dweud Eich Dweud – Teithio Llesol Conwy – Commonplace
Dros e-bost: teithiollesol@conwy.gov.uk