Nid yw’r Bathodyn glas yn drwydded i barcio yn unrhyw le. Os byddwch chi’n parcio mewn lleoliad sy’n achosi rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr ffordd eraill, fe allech gael dirwy neu fe allai eich car gael ei symud. Mewn nifer o leoliadau, mae parcio wedi’i wahardd dan bob amgylchiad. Dylech bob amser wirio’r trefniadau lleol.
Sut i arddangos eich bathodyn
Pan fyddwch chi’n defnyddio Bathodyn Glas, rhaid i chi bob amser arddangos y bathodyn ar y dangosfwrdd neu banel ffasgia er mwyn i’r holl fanylion perthnasol fod yn weladwy trwy’r ffenestr flaen. Ni ddylai’r ochr sydd yn cynnwys y llun fod yn weladwy. Mae’n bosibl y cewch chi ddirwy parcio os nad ydych chi’n arddangos eich bathodyn glas yn gywir.
Buddion Parcio
Yn gyffredinol, bydd y cynllun yn rhoi'r buddion parcio canlynol cyn belled â'ch bod yn arddangos eich bathodyn parcio anabl dilys.
Meysydd parcio oddi ar y stryd
Dylai gweithredwyr meysydd parcio oddi ar y stryd darparu mannau parcio ar gyfer pobl anabl. Fodd bynnag, perchennog y maes parcio fydd yn penderfynu p'un ai os gall unigolion sydd â bathodynnau glas barcio'n ddi-dâl ai peidio. Peidiwch â'i gymryd yn ganiataol y gallwch barcio am ddim bob tro.
Parcio ar y stryd
Gall unigolion sydd â bathodynnau glas barcio am ddim, yn ddiderfyn wrth fesuryddion parcio neu pan fydd parcio ar y stryd 'talu ac arddangos'. Hynny yw, oni bai bod gorchymyn traffig lleol yn nodi terfyn amser ar gyfer bathodynnau glas. Dylech edrych ar y wybodaeth leol, oherwydd gall y cyfyngiadau amrywio rhwng lleoliadau.
Efallai bydd unigolion sydd â bathodynnau glas wedi'u heithrio rhag y cyfyngiadau ar amseroedd parcio sy'n cael eu gosod ar fodurwyr eraill. Fel arfer, cofiwch wirio'r wybodaeth leol cyn parcio.
Llinellau melyn sengl neu ddwbl
Fel arfer, gall unigolion sydd â bathodynnau glas barcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr yng Nghymru a Lloegr, neu'n ddigyfyngiad yn yr Alban. Yr unig eithriad, yw mewn mannau lle mae yna waharddiad ar lwytho neu ddadlwytho, ac mewn rhai mannau penodol lle mae cynlluniau lleol mewn grym megis Canol Llundain.
Peidiwch â pharcio mewn mannau a fyddai'n peryglu, achosi anghyfleuster, neu'n rhwystro cerddwyr neu ddefnyddwyr eraill y ffordd.
Camddefnyddio bathodynnau glas
Gellir camddefnyddio bathodynnau glas mewn nifer o ffyrdd. Mae'r rhestrau canlynol yn cynnwys enghreifftiau o droseddau.
Mae'n rhaid i unigolyn sydd â bathodyn glas beidio:
- defnyddio bathodyn glas sydd wedi rhedeg allan
- defnyddio bathodyn glas sydd wedi cael ei adrodd i fod ar goll neu wedi'i ddwyn
- gadael i ffrind neu berthynas ddefnyddio'r bathodyn glas
- defnyddio copi o fathodyn glas
- newid manylion bathodyn glas fel y dyddiad y bydd yn dod i ben
- gwneud cais twyllodrus fel rhoi gwybodaeth ffug ar y ffurflen gais
- gwneud nifer o geisiadau
- defnyddio bathodynnau glas yn dwyllodrus
Mae'n rhaid i drydydd parti beidio:
- defnyddio bathodyn glas rhywun arall heb fod yr unigolyn sy'n berchen y bathodyn fod yn y cerbyd am y daith gyfan o dan unrhyw amgylchiadau.
- defnyddio bathodyn glas yn benodol ar gyfer casglu presgripsiwn/siopa ac ati i rywun sydd â bathodyn glas ond nid ydynt yn y cerbyd am y daith gyfan.
- defnyddio bathodyn glas sy'n berchen i rywun sydd wedi marw
- copïo, newid neu greu bathodynnau glas
- defnyddio bathodyn glas sydd wedi cael ei golli neu ei ddwyn
Dalwyr bathodynnau glas sydd wedi marw
Os yw daliwr bathodyn glas yn marw, dychwelwch y bathodyn i ni yn y cyfeiriad isod.
Bathodyn Glas
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
Er mwyn adrodd am gamddefnyddio Bathodyn Glas