Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Camddefnyddio Bathodyn Glas


Summary (optional)
Mae Bathodyn Glas er budd deiliad y Bathodyn Glas yn unig. Mae camddefnyddio Bathodyn Glas yn drosedd ddifrifol yn ôl y gyfraith.
start content

Mae camddefnyddio Bathodyn Glas yn drosedd ddifrifol a gellir ei ystyried fel twyll, mewn rhai achosion. Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau yn erbyn camddefnyddio a thwyll Bathodyn Glas. Gellir cymryd eich bathodyn os byddwch yn ei gamddefnyddio, neu'n gadael i bobl eraill ei gamddefnyddio, neu os byddwn yn darganfod wedyn ei fod wedi'i gael yn dwyllodrus. Mae'n drosedd arddangos Bathodyn Glas os nad yw'r deiliad yn y cerbyd, neu os nad yw'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio i'w godi neu ei ollwng. Mae hefyd yn drosedd i bobl nad ydynt yn anabl ddefnyddio bathodyn - os gwnewch hynny, gallech wynebu dirwy o hyd at £1,000. Os nad ydych yn siŵr pryd neu ble y gallwch ddefnyddio eich bathodyn, Gallwch weld y canllawiau ar sut i ddefnyddio’r Bathodyn Glas yn gywir ar wefan Llywodraeth Cymru.neu e-bostiwch bathodynglas@conwy.gov.uk am gyngor.

Enghreifftiau o gamddefnydd a thwyll:

  • Dweud celwydd neu orliwio anabledd i gael bathodyn
  • Gwneud neu ddefnyddio bathodyn ffug
  • Defnyddio bathodyn y gwyddoch ei fod wedi'i ddwyn
  • Defnyddio bathodyn pan nad yw deiliad y bathodyn yn teithio yn y car
  • Defnyddio bathodyn a oedd yn eiddo i rywun a fu farw
  • Camddefnyddio bae Bathodyn Glas dynodedig

 

end content