Nid yw'n ddyletswydd arnom i glirio gollyngiadau o'r fath ar ffyrdd preifat neu ardaloedd eraill, fel meysydd parcio swyddfeydd neu garejys. Ble mae'r digwyddiadau hyn yn digwydd fe geisiwn adfer costau o'r fath yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol.
Gollyngiadau Olew a Diesel
Gall colli olew neu diesel achosi wyneb y ffordd i fod yn llithrig felly mae angen ei glanhau cyn gynted â phosibl. Gwneir hyn trwy roi tywod ar yr ardal a rhoi arwyddion ar ymyl y ffordd. Bydd gollyngiad petrol yn anweddu i'r atmosffer
Cau mewn Argyfwng
Mae gan yr heddlu a'r awdurdod priffyrdd bŵer i gau ffordd heb unrhyw rybudd ple amlygir perygl sylweddol.