Mae Gwasanaethau Priffyrdd ac Isadeiledd Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych yn gofyn i ffermwyr a'r rheiny yn y diwydiant amaethyddol i'w helpu i gadw ffyrdd gwledig yn fwy diogel i bawb. Mae'r Awdurdodau wedi cyhoeddi canllaw i Ffermio a Ffyrdd Cyhoeddus, sy'n egluro rôl yr Awdurdodau Priffyrdd a'r cyfrifoldebau ar unrhyw un sy'n gweithio ar ffyrdd cyhoeddus, boed hynny yn torri'r gwrychoedd, defnyddio cerbydau amaethyddol neu symud anifeiliaid.
Taflen Ffermio a Ffyrdd Cyhoeddus