Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tyddyn Terrace, Llanrwst - Mannau Parcio i Unigolion ag Anabledd: Hysbysiad


Summary (optional)

Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn yw:

  • hwyluso parcio ar gyfer preswylwyr ag anabledd a deiliaid bathodyn anabledd
start content

Cyfeirnod: CCBC - 049038

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Unigolion ag Anabledd) (Rhif 1) 2024 – Rhan 1


Gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y Gorchymyn a enwir uchod dan Adrannau 1, 2 a 4 a Rhan IV Atodlen 9, Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 a fydd yn dynodi'r darn o ffordd a nodwyd yn yr Atodlen isod fel Gofod Parcio i Bobl Anabl i'w ddefnyddio gan gerbydau sy'n arddangos Bathodyn Anabl dilys a Thrwydded Preswylydd yn unig.

Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a ddaw i rym ar 16 Medi 2024 ar wefan y Cyngor. Os ydych yn dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu ddilysrwydd unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys ynddo, ar y sail nad yw'n cyfateb i’r pwerau a roddir dan Ddeddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984, neu oherwydd nad yw’r Gorchymyn yn cydymffurfio ag un o amodau'r Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaed dan y ddeddf, gallwch wneud cais i'r Uchel Lys i'r perwyl hwn o fewn chwe wythnos i ddyddiad y rhybudd hwn.

Atodlen 1 - (Deiliaid trwydded preswylydd anabl yn unig

5 Tyddyn Terrace, Pendre Llanrwst

  • Ochr y gorllewin: o bwynt 20 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Heol Scotland am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain

 

Dyddiedig:  11 Medi 2024

CeriWilliamsSignature

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Tudalen nesaf: Gorchymyn

end content