Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tyddyn Terrace, Llanrwst - Mannau Parcio i Unigolion ag Anabledd: Gorchymyn


Summary (optional)

Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn yw:

  • hwyluso parcio ar gyfer preswylwyr ag anabledd a deiliaid bathodyn anabledd
start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Bobl Anabl) (Rhif 1) 2024 - Rhan 1


Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1, 2 a 4 a Rhan IV Atodlen 9 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati wedi hyn fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato wedi hyn fel "y Cyngor") drwy hyn, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:-

  • 1.  Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 16 Medi dwy fil a phedair ar hugain, a gellir cyfeirio ato fel "Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Bpbl Anabl) (Rhif 1) 2024 - Rhan 1."
  • 2.
    • (1)  Yn y Gorchymyn hwn:-
      • ystyr "man parcio wedi’i awdurdodi" yw unrhyw le parcio ar ffordd sydd wedi’i awdurdodi neu ei neilltuo drwy Orchymyn a wnaed, neu sydd â’r un effaith â phetai wedi’i wneud dan Ddeddf 1984;
      • yr un ystyr sydd i "bathodyn unigolyn ag anabledd" â’r ystyr yn Rheoliadau Bobl Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000;
      • yr un ystyr sydd i "disg parcio" â’r ystyr yn Rheoliad 8 Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Eithriadau ar gyfer Bobl Anabl) (Cymru) 2000;
    • (2)   I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn ag anabledd yn y lle perthnasol os:
      • (a)  yw'r bathodyn yn ddilys; a
      • (b)
        • (i) bod y bathodyn yn cael ei arddangos ar ddangosfwrdd y cerbyd, gan sicrhau y gellir gweld Rhan 1 y bathodyn o ymyl y ffordd, neu
        • (ii)  os nad oes gan y cerbyd ddangosfwrdd, bod y bathodyn yn cael ei arddangos ar ran amlwg o'r cerbyd, gan sicrhau y gellir gweld Rhan 1 y bathodyn o ymyl y ffordd.
    • (3)  At bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos disg parcio yn y lle perthnasol os:-
      • (a)   yw’n bosibl gweld ochr y disg sy'n dangos y chwarter awr pan ddechreuodd y cyfnod aros o ymyl y ffordd.
    • (4)  Ac eithrio lle nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at Erthygl neu Atodlen wedi'u rhifo yn gyfeiriad at yr Erthygl neu Atodlen sydd â'r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.
  • 3.  Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 4 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu Swyddog Gorfodaeth Sifil mewn iwnifform, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darnau ffordd a nodir yn Atodlen 1 y Gorchymyn hwn, oni bai bod y cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn ag anabledd a thrwydded preswylydd.
  • 4.  Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 3 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd Cwnstabl Heddlu neu Swyddog Gorfodaeth Sifil mewn iwnifform, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darnau o ffordd y cyfeirir atynt yma am gymaint o amser ag sydd ei angen i alluogi:-
    • (a)  i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os na ellir ei ddefnyddio'n gyfleus at ddibenion o'r fath ar unrhyw ffordd arall, i wneud y canlynol, sef:
      • (i)  gwaith adeiladu, diwydiannol neu ddymchwel.
      • (ii)  cael gwared ar unrhyw rwystr i draffig.
      • (iii)  cynnal, gwella neu ail adeiladu'r darnau o ffordd y cyfeirir atynt.
      • (iv)  gosod, adeiladu, addasu neu drwsio unrhyw bibell garthffos neu brif biben neu offer ar gyfer darparu nwy, dŵr, trydan neu unrhyw offer telegyfathrebu, fel y caiff ei ddiffinio yn Neddf Telegyfathrebu 1984, ar dir neu dir sy'n gyfagos i'r darnau o ffordd y cyfeirir atynt.
    • (b)  i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os na ellir ei ddefnyddio'n gyfleus at ddibenion o'r fath ar unrhyw ffordd arall, at wasanaeth yr awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, yn unol â phwerau neu ddyletswyddau statudol.
    • (c)  cerbyd darparwyr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 Deddf Gwasanaethau Post 2000
  • 5. Mae’r gwaharddiad a’r cyfyngiadau a bennir drwy’r Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad, gwaharddiad neu ofyniad bennir drwy unrhyw reoliadau a wnaed neu sy’n cael effaith fel pe baent wedi’u gwneud dan Ddeddf 1984, neu drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad arall, ac nid yn rhanddirymiad iddynt.

 

RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 6 Medi Dwy fil a phedair ar hugain.

Atodlen 1 - Deiliaid trwydded preswylydd anabl yn unig

5 Tyddyn Terrace, Pendre Llanrwst

  • Ochr y gorllewin: o bwynt 20 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Heol Scotland am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain

 

Gweld copi wedi'i sganio o'r gorchymyn gwreiddiol wedi'i selio. (PDF, 0.5MB)

Gallwch wneud cais am gopi papur drwy ffonio 01492 574000 neu anfon e-bost at  traffig@conwy.gov.uk.


Tudalen nesaf:  Map

end content