Cyfeirnod: CCBC - 049038
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Bobl Anabl) (Rhif 1) 2024
Gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y Gorchymyn a enwir uchod dan Adrannau 1, 2 a 4 a Rhan IV Atodlen 9, Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 a fydd yn dynodi'r darnau o ffordd a nodwyd yn Atodlen 1 fel Gofod Parcio i Bobl Anabl i'w ddefnyddio gan gerbydau sy'n arddangos Bathodyn Anabl dilys a Thrwydded Preswylydd yn unig, dynodi’r darn ffordd a nodir yn Atodlen 2 yn Fannau Parcio i Unigolion gydag Anabledd i’w defnyddio’n unig gan gerbydau sy’n arddangos Bathodyn dilys Unigolyn gydag Anabledd a dirymu’r cyfyngiadau a nodwyd yn Atodlen 3.
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a map, a ddaw i rym ar 15 Gorffennaf 2024 ar wefan y Cyngor. Os ydych yn dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu ddilysrwydd unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys ynddo, ar y sail nad yw'n cyfateb i’r pwerau a roddir dan Ddeddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984, neu oherwydd nad yw’r Gorchymyn yn cydymffurfio ag un o amodau'r Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaed dan y ddeddf, gallwch wneud cais i'r Uchel Lys i'r perwyl hwn o fewn chwe wythnos i ddyddiad y rhybudd hwn.
Atodlen 1 - Deiliaid trwydded preswylydd anabl yn unig
7 Belgrave Road, Bae Colwyn
- Ochr y gogledd: o bwynt 30 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Ffordd Abergele am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain
14 Bryn Eglwys, Llandrillo yn Rhos
- Ochr y gogledd-ddwyrain; O bwynt 78 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Bryn Menai am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain
15 Kyffin Close, Hen Golwyn
- Ochr y gorllewin: ar y pwynt mwyaf gogleddol am bellter o 6.6m i gyfeiriad y dwyrain
Cwmlws Lane, Penmaenmawr (ar gyfer 22 Chapel Street)
- Ochr y gorllewin: o bwynt 20 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Water Street am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd
5 Ty Gwyn Road, Llandudno
- Ochr y de: O bwynt 40 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Tabor Hill am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain
48 Park Road, Bae Colwyn
- Ochr y de: O bwynt 146 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Rhiw Road am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain
46 Erskine Road, Bae Colwyn
- Ochr y dwyrain: o bwynt 50 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Belgrave Road am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain
Fern Villa, Penmaenmawr Road, Llanfairfechan
- Ochr y de: o bwynt 23 metr gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Tyddyn Drycin am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain
42 Narrow Lane, Cyffordd Llandudno
- Ochr y dwyrain : o bwynt 30 metr o’i chyffordd â Bryn Fynnon am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd
9 Curzon Road, Craig y Don
- Ochr y gogledd: o bwynt 5 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Morley Road am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gorllewin
Atodlen 2 - Llain Anabl Gyffredinol – deiliaid Bathodyn Glas
Mostyn Avenue, Craig y Don
- Ochr y gogledd: o bwynt 65 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Queen’s Road am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain
Atodlen 3 - Dirymiadau
3 West Parade, Llandudno
- Ochr y gogledd: tu allan i eiddo rhif 3
33 Rhiw Road, Bae Colwyn
- Ochr y dwyrain: tu allan i eiddo rhif 33
31 Grove Park, Bae Colwyn
- Ochr y de-orllewin: tu allan i eiddo rhif 31
6 Cadwgan Road, Hen Golwyn
- Ochr y de: tu allan i eiddo rhif 6
Augusta Street, Llandudno (ar gyfer Brook Street)
- Ochr y de-orllewin: tu allan i eiddo rhif 1
25 Pendalar, Llanfairfechan
- Ochr y dwyrain: tu allan i eiddo rhif 25
18 Highfield Road, Bae Colwyn
- Ochr y de-ddwyrain: tu allan i eiddo rhif 18
Dyddiedig: 10 Gorffennaf 2024
Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Tudalen nesaf: Gorchymyn