Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ffyrdd Amrywiol - Mannau Parcio i Unigolion ag Anabledd (2024): Gorchymyn


Summary (optional)

Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn yw:

  • hwyluso parcio ar gyfer preswylwyr ag anabledd a deiliaid bathodyn anabledd
start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Bobl Anabl) (Rhif 1) 2024


Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1, 2 a 4 a Rhan IV Atodlen 9 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati wedi hyn fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato wedi hyn fel "y Cyngor") drwy hyn, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:-

  • 1.  Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 15 Gorffennaf dwy fil a phedair ar hugain, a gellir cyfeirio ato fel "Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio i Bpbl Anabl) (Rhif 1) 2024."

  • 2.  
    • (1)  Yn y Gorchymyn hwn:-

      ystyr "man parcio wedi’i awdurdodi" yw unrhyw le parcio ar ffordd sydd wedi’i awdurdodi neu ei neilltuo drwy Orchymyn a wnaed, neu sydd â’r un effaith â phetai wedi’i wneud dan Ddeddf 1984;

      yr un ystyr sydd i "bathodyn unigolyn ag anabledd" â’r ystyr yn Rheoliadau Bobl Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000;

      yr un ystyr sydd i "disg parcio" â’r ystyr yn Rheoliad 8 Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Eithriadau ar gyfer Bobl Anabl) (Cymru) 2000;

    • (2)   I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn ag anabledd yn y lle perthnasol os:

      • (a)  yw'r bathodyn yn ddilys; a
      • (b)
        • (i)  bod y bathodyn yn cael ei arddangos ar ddangosfwrdd y cerbyd, gan sicrhau y gellir gweld Rhan 1 y bathodyn o ymyl y ffordd, neu

        • (ii)  os nad oes gan y cerbyd ddangosfwrdd, bod y bathodyn yn cael ei arddangos ar ran amlwg o'r cerbyd, gan sicrhau y gellir gweld Rhan 1 y bathodyn o ymyl y ffordd.

    • (3)  At bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos disg parcio yn y lle perthnasol os:-

      • (a)  yw’n bosibl gweld ochr y disg sy'n dangos y chwarter awr pan ddechreuodd y cyfnod aros o ymyl y ffordd.

    • (4)  Ac eithrio lle nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at Erthygl neu Atodlen wedi'u rhifo yn gyfeiriad at yr Erthygl neu Atodlen sydd â'r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

  • 3.  Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 5 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu Swyddog Gorfodaeth Sifil mewn iwnifform, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darnau ffordd a nodir yn Atodlen 1 y Gorchymyn hwn, oni bai bod y cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn ag anabledd a thrwydded preswylydd.

  • 4.  Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 5 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu Swyddog Gorfodaeth Sifil mewn iwnifform, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darnau ffordd a nodir yn Atodlen 2 y Gorchymyn hwn, oni bai bod y cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn gydag anabledd dilys.

  • 5.  Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 3 a 4 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd Cwnstabl Heddlu neu Swyddog Gorfodaeth Sifil mewn iwnifform, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darnau o ffordd y cyfeirir atynt yma am gymaint o amser ag sydd ei angen i alluogi:-

    • (a)  i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os na ellir ei ddefnyddio'n gyfleus at ddibenion o'r fath ar unrhyw ffordd arall, i wneud y canlynol, sef:

      • (i)  gwaith adeiladu, diwydiannol neu ddymchwel.
      • (ii)  cael gwared ar unrhyw rwystr i draffig.
      • (iii)  cynnal, gwella neu ail adeiladu'r darnau o ffordd y cyfeirir atynt.
      • (iv)  gosod, adeiladu, addasu neu drwsio unrhyw bibell garthffos neu brif biben neu offer ar gyfer darparu nwy, dŵr, trydan neu unrhyw offer telegyfathrebu, fel y caiff ei ddiffinio yn Neddf Telegyfathrebu 1984, ar dir neu dir sy'n gyfagos i'r darnau o ffordd y cyfeirir atynt.

    • (b)  i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os na ellir ei ddefnyddio'n gyfleus at ddibenion o'r fath ar unrhyw ffordd arall, at wasanaeth yr awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, yn unol â phwerau neu ddyletswyddau statudol.

    • (c)  cerbyd darparwyr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 Deddf Gwasanaethau Post 2000

  • 6.  Mae Gorchymyn (Gofodau Parcio ar y Stryd i Bobl Anabl) 2008 Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r lleoliadau a nodir yn Atodlen 3 o'r Gorchymyn hwn a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall.

  • 7.  Mae Gorchymyn (Gofodau Parcio ar y Stryd i Bobl Anabl) 2023 Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r lleoliadau a nodir yn Atodlen 3 o'r Gorchymyn hwn a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall.

  • 8.  Mae Gorchymyn (Gofodau Parcio ar y Stryd i Bobl Anabl) 2019 Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r lleoliadau a nodir yn Atodlen 3 o'r Gorchymyn hwn a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall.

  • 9.  Mae Gorchymyn Cadarnhau (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llefydd Parcio ar y Stryd) 2006 Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei ddirymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r lleoliadau a nodir yn Atodlen 3 o'r Gorchymyn hwn yn unig a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall.

  • 10. Mae’r gwaharddiad a’r cyfyngiadau a bennir drwy’r Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad, gwaharddiad neu ofyniad bennir drwy unrhyw reoliadau a wnaed neu sy’n cael effaith fel pe baent wedi’u gwneud dan Ddeddf 1984, neu drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad arall, ac nid yn rhanddirymiad iddynt.

 

RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 8 Gorffennaf Dwy fil  a phedair ar hugain.

 

Atodlen 1 - Deiliaid trwydded preswylydd anabl yn unig

7 Belgrave Road, Bae Colwyn

  • Ochr y gogledd: o bwynt 30 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Ffordd Abergele am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain

14 Bryn Eglwys, Llandrillo yn Rhos

  • Ochr y gogledd-ddwyrain; O bwynt 78 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Bryn Menai am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain

15 Kyffin Close, Hen Golwyn

  • Ochr y gorllewin: ar y pwynt mwyaf gogleddol am bellter o 6.6m i gyfeiriad y dwyrain

Cwmlws Lane, Penmaenmawr (ar gyfer 22 Chapel Street)

  • Ochr y gorllewin: o bwynt 20 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Water Street am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd

5 Ty Gwyn Road, Llandudno

  • Ochr y de: O bwynt 40 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Tabor Hill am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain

48 Park Road, Bae Colwyn

  • Ochr y de: O bwynt 146 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Rhiw Road am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain

46 Erskine Road, Bae Colwyn

  • Ochr y dwyrain: o bwynt 50 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Belgrave Road am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain

Fern Villa, Penmaenmawr Road, Llanfairfechan

  • Ochr y de: o bwynt 23 metr gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Tyddyn Drycin am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain 

42 Narrow Lane, Cyffordd Llandudno

  • Ochr y dwyrain : o bwynt 30 metr o’i chyffordd â Bryn Fynnon am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd 

9 Curzon Road, Craig y Don

  • Ochr y gogledd: o bwynt 5 metr i’r dwyrain   o’i chyffordd â Morley Road am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gorllewin 

Atodlen 2 - Llain Anabl Gyffredinol – deiliaid Bathodyn Glas

Mostyn Avenue, Craig y Don

  • Ochr y gogledd: o bwynt 65 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Queen’s Road am bellter o 6.6 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain

Atodlen 3 - Dirymiadau

3 West Parade, Llandudno

  • Ochr y gogledd: tu allan i eiddo rhif 3

33 Rhiw Road, Bae Colwyn

  • Ochr y dwyrain: tu allan i eiddo rhif 33 

31 Grove Park, Bae Colwyn

  • Ochr y de-orllewin: tu allan i eiddo rhif 31

6 Cadwgan Road, Hen Golwyn

  • Ochr y de: tu allan i eiddo rhif 6

Augusta Street, Llandudno (ar gyfer Brook Street)

  • Ochr y de-orllewin: tu allan i eiddo rhif 1

25 Pendalar, Llanfairfechan

  • Ochr y dwyrain: tu allan i eiddo rhif 25

18 Highfield Road, Bae Colwyn

  • Ochr y de-ddwyrain: tu allan i eiddo rhif 18

Gweld copi wedi'i sganio o'r gorchymyn gwreiddiol wedi'i selio. (PDF, 0.5MB)

Gallwch wneud cais am gopi papur drwy ffonio 01492 574000 neu anfon e-bost at traffig@conwy.gov.uk.


Tudalen nesaf:  Mapiau

end content