Cyfeirnod: CCBC - 042854
Gorchymyn (Diwygiad Rhif 1) 2023 Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Atal a Chyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2006 – Promenâd y Gorllewin Bae Colwyn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud Gorchymyn dan Adrannau 1(1), 2(1) i (3) a Rhan IV yn Atodlen 9 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, i ddiwygio Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2006 i ymestyn y Parth Parcio wedi’i Reoli ar hyd y darn hwnnw o Bromenâd y Gorllewin Bae Colwyn o’i gyffordd â Marine Road am bellter o 255 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin fel y manylir yn yr Atodlenni isod.
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â map sy’n dangos y darnau o ffordd y mae'r Gorchymyn yn berthnasol iddynt, a datganiad o resymau'r Cyngor dros wneud y Gorchymyn arfaethedig yn Swyddfeydd y Cyngor, Coed Pella, Bae Colwyn ac ar wefan y Cyngor.
Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau i'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â'r rhesymau drostynt, ar bapur at yr Adain Draffig, Adran yr Amgylchedd Ffyrdd a Chyfleusterau, Blwch Post 1, Conwy LL30 9GN neu at traffig@conwy.gov.uk erbyn 15 Rhagfyr 2023.
Atodlen 1 (Taliadau ar gyfer Tystysgrif Esgusodi a Thrwyddedau Parcio)
Tystysgrif esgusodi fasnachol
Tâl: £17.00 y cerbyd, y dydd, hyd at gyfnod o wythnos
Atodlen 2 (Taliadau rhwng 1 Mai a 30 Medi bob blwyddyn)
Promenâd y Gorllewin, Bae Colwyn; o’i gyffordd â Marine Road am bellter o 255 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin
- Safle y gall cerbyd aros: Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio
- Diwrnodau gweithredu: Dydd Llun i ddydd Sul (yn cynnwys y diwrnodau hynny)
- Cyfnod aros hiraf: Dim cyfyngiad
- Oriau y codir tâl: 10am tan 4pm:
- Math o gerbyd: Ceir a faniau ysgafn a charafanau modur (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
- Graddfa'r prisiau: Hyd at 4 awr £4.50, Mwy na 4 awr £6.50
- Oriau y codir tâl: 4pm tan 10am:
- Math o gerbyd: Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
- Graddfa'r prisiau: Dim tâl
- Oriau y codir tâl: 4pm tan 11pm ac 8am tan 10am:
- Math o gerbyd: Carafanau modur (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
- Graddfa'r prisiau: Dim tâl
Atodlen 3 (Taliadau rhwng 1 Hydref a 30 Ebrill bob blwyddyn)
Promenâd y Gorllewin, Bae Colwyn; o’i gyffordd â Marine Road am bellter o 255 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin
- Safle y gall cerbyd aros: Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio
- Diwrnodau gweithredu: Dydd Llun i ddydd Sul (yn cynnwys y diwrnodau hynny)
- Cyfnod aros hiraf: Dim cyfyngiad
- Oriau y codir tâl: 10am tan 4pm:
- Math o gerbyd: Ceir a faniau ysgafn a charafanau modur (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
- Graddfa'r prisiau: Hyd at 2 awr £2.00, Hyd at 4 awr £3.20, Mwy na 4 awr £4.50
- Oriau y codir tâl: 4pm tan 10am:
- Math o gerbyd: Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
- Graddfa'r prisiau: Dim tâl
- Oriau y codir tâl: 4pm tan 11pm ac 8am tan 10am:
- Math o gerbyd: Carafanau modur (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
- Graddfa'r prisiau: Dim tâl
Atodlen 6 (Taliadau ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas i Bobl Anabl)
Promenâd y Gorllewin, Bae Colwyn; o’i gyffordd â Marine Road am bellter o 255 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin
- Safle y gall cerbyd aros: Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio
- Diwrnodau gweithredu: Dydd Llun i ddydd Sul (yn cynnwys y dyddiadau hynny)
- Cyfnod aros hiraf: Dim cyfyngiad
- Oriau y codir tâl: 24 awr:
- Math o gerbyd: Deiliaid bathodyn i bobl anabl yn unig
- Graddfa'r prisiau: Dim tâl
Dyddiedig: 22 Tachwedd 2023
![CeriWilliamsSignature](/en/Resident/Parking-Roads-and-Travel/Traffic-Regulation-Orders/assets/documents/CeriWilliamsSignature.jpg)
Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Tudalen Nesaf: Gorchymyn