Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Promenâd y Gorllewin, Bae Colwyn - Atal a Chyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd: Gorchymyn


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn arfaethedig yw:-
  • rheoli traffig a darparu parcio cynaliadwy.
start content

Gorchymyn (Diwygiad Rhif 1) 2023 Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Atal a Chyfyngu Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2006 – Promenâd y Gorllewin Bae Colwyn


Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1(1), 2(1) i (3) a Rhan IV yn Atodlen 9, Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori gyda Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III yn Atodlen 9 Deddf 1984, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Cyngor"), drwy hyn, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:-

  • 1.  Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar y dydd o dwy fil xxx, a gellir cyfeirio ato fel "Gorchymyn (Diwygiad Rhif 1) 2023 Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Atal a Chyfyngu Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2006 – Promenâd y Gorllewin Bae Colwyn”.

  • 2.  (1)  Yn y Gorchymyn hwn:-

(a) Caiff Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Atal a Chyfyngu Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2006 ei ddiwygio drwy hyn i’r graddau fod Atodlenni 1, 2, 3 a 6 yn cael eu diwygio i gynnwys y darn hwnnw o Bromenâd y Gorllewin Bae Colwyn o’i gyffordd â Marine Road am bellter o 255 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin  fel y manylir yn yr Atodlenni isod.
 
Mae “tystysgrif esgusodi fasnachol” yn golygu tystysgrif a roddwyd ar ran y Cyngor at ddiben Erthygl 25, sy’n caniatáu cerbyd penodol i aros dan amgylchiadau penodol ar ddarn neu ddarnau o ffordd lle byddai'r cerbyd hwnnw wedi'i atal rhag aros fel arall.
 
Mae “carafán fodur” yn golygu unrhyw garafán fodur, carafanet, cerbyd gwersylla neu unrhyw gerbyd a yrrir gan fodur sydd wedi cael ei wneud neu wedi ei drawsnewid i fod yn gerbyd gwersylla neu i gysgu ynddo.
 
Mae “ceir a faniau ysgafn” yn golygu car modur fel y’i diffiniwyd yn Rheoliadau Cerbydau Ffordd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986; neu'r un ystyr â char modur yn Adran 185 Deddf Traffig Ffyrdd 1988.

  • 3.  Bydd y gwaharddiadau a'r cyfyngiadau sy'n cael eu gosod gan y Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad neu amod sy'n cael ei osod gan unrhyw reoliadau sydd wedi eu gwneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe baent wedi eu gwneud naill ai dan y Ddeddf honno neu dan unrhyw ddeddf arall, ac ni fyddant yn tynnu oddi wrtho.

 

Ychwanegir y geiriau a’r ffigurau canlynol at Atodlen 1

Atodlen 1 (Taliadau ar gyfer Tystysgrif Esgusodi a Thrwyddedau Parcio)

Tystysgrif esgusodi fasnachol

Tâl: £17.00 y cerbyd, y dydd, hyd at gyfnod o wythnos

Atodlen 2 (Taliadau rhwng 1 Mai a 30 Medi bob blwyddyn)

Promenâd y Gorllewin, Bae Colwyn; o’i gyffordd â Marine Road am bellter o 255 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin

  • Safle y gall cerbyd aros:  Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio
  • Diwrnodau gweithredu:  Dydd Llun i ddydd Sul (yn cynnwys y diwrnodau hynny)
  • Cyfnod aros hiraf:  Dim cyfyngiad
  • Oriau y codir tâl:  10am tan 4pm:
    • Math o gerbyd:  Ceir a faniau ysgafn a charafanau modur (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
    • Graddfa'r prisiau:  Hyd at 4 awr £4.50,  Mwy na 4 awr £6.50
  • Oriau y codir tâl:  4pm tan 10am:
    • Math o gerbyd:  Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
    • Graddfa'r prisiau:  Dim tâl
  • Oriau y codir tâl:  4pm tan 11pm ac 8am tan 10am:
    • Math o gerbyd:  Carafanau modur (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
    • Graddfa'r prisiau:  Dim tâl

Atodlen 3 (Taliadau rhwng 1 Hydref a 30 Ebrill bob blwyddyn)

Promenâd y Gorllewin, Bae Colwyn; o’i gyffordd â Marine Road am bellter o 255 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin

  • Safle y gall cerbyd aros:  Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio
  • Diwrnodau gweithredu:  Dydd Llun i ddydd Sul (yn cynnwys y diwrnodau hynny)
  • Cyfnod aros hiraf:  Dim cyfyngiad
  • Oriau y codir tâl:  10am tan 4pm:
    • Math o gerbyd:  Ceir a faniau ysgafn a charafanau modur (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
    • Graddfa'r prisiau:  Hyd at 2 awr £2.00,  Hyd at 4 awr £3.20,  Mwy na 4 awr £4.50
  • Oriau y codir tâl:  4pm tan 10am:
    • Math o gerbyd:  Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
    • Graddfa'r prisiau:  Dim tâl
  • Oriau y codir tâl:  4pm tan 11pm ac 8am tan 10am:
    • Math o gerbyd:  Carafanau modur (fel y diffinnir yn Erthygl 2)
    • Graddfa'r prisiau:  Dim tâl

Atodlen 6 (Taliadau ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas i Bobl Anabl)

Promenâd y Gorllewin, Bae Colwyn; o’i gyffordd â Marine Road am bellter o 255 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin

  • Safle y gall cerbyd aros:  Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio
  • Diwrnodau gweithredu:  Dydd Llun i ddydd Sul (yn cynnwys y diwrnodau hynny)
  • Cyfnod aros hiraf:  Dim cyfyngiad
  • Oriau y codir tâl:  24 awr:
    • Math o gerbyd:  Deiliaid bathodyn i bobl anabl yn unig
    • Graddfa'r prisiau:  Dim tâl

 

RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y         dydd   o                    Dwy fil a tair ar hugain


Tudalen Nesaf:  Map

end content