Gallwn roi cyngor cyn ymgeisio i chi ar Adeiladau Rhestredig neu ddatblygiadau mewn Ardaloedd Cadwraeth a safleoedd Treftadaeth y Byd.
Efallai y byddwch hefyd angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich cynnig datblygu. Mae cyngor cyffredinol am gynllunio ar gael ar ein tudalen cyngor cyn ymgeisio.
Sut i drefnu Cyngor ar Gadwraeth Treftadaeth Adeiledig
Llenwch ein ffurflen Gais am gyngor ar adeiladau rhestredig ac ardal gadwraeth cyn ymgeisio a’i hanfon mewn e-bost i cynllunioplanning@conwy.gov.uk.
Faint mae'n ei gostio?
Gall y gost amrywio yn dibynnu ar y cyngor sydd ei angen arnoch.
Cyngor cyn ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig ac ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd cadwraeth
Gallwn ddarparu cyngor cyn ymgeisio ar bob cais sy'n cynnwys gwaith i adeilad rhestredig neu mewn ardal gadwraeth ac ateb ymholiadau anffurfiol gan ddarpar brynwyr. Mae’r ffioedd canlynol yn berthnasol:
- Cyngor ysgrifenedig: £90 yr awr
- Cyfarfod mewn swyddfa hyd at 1 awr a chyngor ysgrifenedig: £120
- Cyfarfod ar safle hyd at 1 awr a chyngor ysgrifenedig: £180
Ffioedd monitro Datblygu Safle am ganiatâd adeilad rhestredig
Gallwn roi cyngor ar brosiectau datblygu safle fel cytuno ar samplau/manylion, newidiadau i gynlluniau a gymeradwywyd, dadorchuddio adeiladwaith hanesyddol ac ati. Mae’r ffioedd canlynol yn berthnasol:
- Cyfarfod safle hyd at 1 awr: £120
- Cyfarfod safle hyd at 1 awr a chyngor ysgrifenedig: £180
Ffioedd tystysgrif cwblhau i ardystio cydymffurfiaeth â chaniatâd adeilad rhestredig
Gallwn roi tystysgrifau cwblhau / cydymffurfiaeth ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig. Mae’r ffioedd canlynol yn berthnasol:
- Cyfarfod safle hyd at 1 awr a chyngor ysgrifenedig / tystysgrif cwblhau: £180
Taliadau
Talu ar-lein
Beth sy’n digwydd ar ôl gofyn am y cyngor?
Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith i roi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich ffurflen.
Os nad ydych wedi anfon y wybodaeth angenrheidiol yna byddwn yn cysylltu â chi ac yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud. Os byddwn wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, ein nod yw darparu cyngor ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod.