A: Mae Adran 1 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yn gofyn i Weinidogion Cymru restru adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Arolygwyr Adeiladau Hanesyddol CADW sy'n gyfrifol am asesu'r adeiladau.
Caiff eiddo eu rhestru dan dri chategori:
- Mae'r mwyafrif, o ddiddordeb arbennig, yn Adeiladau Gradd II.
- Mae ychydig o adeiladau o bwys wedi eu rhestru fel Adeiladau Gradd II*.
- Mae'r adeiladau o ddiddordeb eithriadol (2% o'r cyfanswm) yn cael eu rhestru fel Adeiladau Gradd I.
Mae'r holl adeiladau a godwyd cyn 1700, sydd wedi aros i ryw raddau yn eu cyflwr gwreiddiol, yn gymwys ar gyfer rhestru. Felly hefyd y rhan fwyaf o adeiladau a godwyd rhwng 1700 a 1840. O ran adeiladau a godwyd rhwng 1840 a 1914, dim ond adeiladau o ansawdd a chymeriad penodol sy'n gymwys (yn enwedig adeiladau wedi eu cynllunio gan benseiri o fri). Mae rhai adeiladau a godwyd rhwng 1914 a 1939, a nifer fach o adeiladau a godwyd ar ôl y rhyfel, hefyd wedi eu rhestru. Mae unrhyw adeilad o deilyngdod, beth bynnag ei oed, yn gymwys i'w ystyried ar gyfer ei warchod ar ffurf rhestru.
Mae adeiladau rhestredig yn cael eu gwarchod drwyddynt draw, gan gynnwys waliau allanol, drysau, ffenestri a'r to, yn ogystal â phopeth y tu mewn. Ar y cyfan, mae unrhyw nodwedd fewnol sy'n wreiddiol a/neu'n ychwanegu at gymeriad a hanes yr adeilad yn cael ei warchod. Mae rhestru hefyd yn gwarchod unrhyw wrthrych neu adeiledd sy'n sownd wrth adeilad rhestredig yn ogystal ag unrhyw adeiledd o fewn y cwrtil sy'n rhan o'r tir ac sydd wedi bod yn rhan o'r tir cyn 1 Gorffennaf 1948. Hynny yw, nodweddion fel waliau terfyn, clwydi, tai allan ac adeileddau eilaidd. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai o'r adeileddau hyn wedi eu rhestru yn unigol. Nid yr hyn a ddisgrifir yn unig a gaiff ei warchod.
Ddiwedd 2015 cwblhawyd arolwg o bob cymuned ac fe arweiniodd hynny at restru 30,000 o adeiladau yng Nghymru.