Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynlluniau Lleoedd - Newyddion Diweddaraf


Summary (optional)
start content

Yn ystod y 12 mis diwethaf, Cynllun Lle Towyn a Bae Cinmel oedd y Cynllun Lle cyntaf yng Nghonwy i gael ei fabwysiadu’n ganllaw cynllunio atodol. Ym mis Ionawr lansiodd Bae Colwyn ei Chynllun Lle ar gyfer y cymunedau o Hen Golwyn i Landrillo-yn-Rhos a mae Abergele yn dal i weld prosiectau Cynllun Lle yn cael eu cyflawni ar draws y dref.

Mae Towyn a Bae Cinmel bellach yn edrych ar recriwtio aelodau i’r bwrdd; ac mae Abergele wedi penodi Swyddog Rheoli Prosiect ac Ariannu i hwyluso’r Cynllun Lle gyda chyllid wedi’i sicrhau am flwyddyn arall. Mae Bae Colwyn hefyd wedi llwyddo i gael cyllid i benodi Rheolwr Cynllun Lle.

Ym mis Mehefin cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Rhwydwaith Cynlluniau Lle Conwy, lle daeth cynrychiolwyr o’r tri phwyllgor Cynllun Lle at ei gilydd i drafod gwersi a ddysgwyd a phrosesau i’r dyfodol.

Cynllun Lle neu Gynllun Cymuned?

Llynedd cyflwynodd ein cydweithwyr yn y tîm Economi a Diwylliant raglen KickStarter Cynlluniau Lle, wedi’i dylunio i helpu cymunedau sy’n ystyried creu Cynllun Lle.

Gyda chefnogaeth Cymorth Cynllunio Cymru, cefnogwyd Cynghorau Tref Llanfairfechan, Penmaenmawr, Llanrwst a Chonwy i ddod â chymunedau a chynghorau tref at ei gilydd i edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu Cynlluniau Lle yn eu hardaloedd.

Roedd yr ymarfer hwn yn cynnwys ymgynghoriad ynghylch materion pwysig yn y gymuned, pa un ai oes bylchau mewn darpariaeth a pha flaenoriaethau y dylid eu nodi.

Yn bwysig iawn, ystyriodd y cymunedau pa ddull sy’n diwallu anghenion eu cymuned orau ac ai Cynllun Lle ydi’r ffordd orau ymlaen.

Rydym ni hefyd wedi defnyddio dull rhagweithiol yn yr ardaloedd o gwmpas y pedwar safle strategol a nodwyd yn y CDLlN i hyrwyddo Cynlluniau Lle sy’n seiliedig ar safle fel dull posibl i gefnogi’r ardaloedd hyn i’r dyfodol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i:


Am fwy o wybodaeth gyffredinol, ewch i:


Am fwy o wybodaeth am Abergele, Towyn a Bae Cinmel a Bae Colwyn:

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content