Poster Cynllun Lle (PDF)
Pwrpas Cynllun Lleoedd yw:
- Casglu tystiolaeth am eich ardal i ddeall pa faterion y mae'r gymuned yn eu hwynebu
- Siarad â’r gymuned ehangach a budd-ddeiliaid ynglŷn â sut y bydd yr ardal yn datblygu, a beth sydd angen ei wneud ar gyfer lles y gymuned yn y dyfodol
- Cytuno ar sut yr ydych am i wahanol agweddau o’ch lle fod yn y dyfodol
- Cytuno ar gynllun i weithio tuag at y dyfodol hwn, gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, polisïau ar gyfer gwneud penderfyniadau am gynllunio a chynllun gweithredu i nodi sut y bydd materion a nodwyd yn cael eu taclo.
- Sicrhau fod y gymuned a budd-ddeiliaid allweddol yn cytuno i’r cynllun terfynol a’i fod yn cael ei fabwysiadu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol i’w ddefnyddio fel Canllaw Cynllunio Atodol e.e. i'w ddefnyddio i wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio
Rydym wedi cynllunio pecyn gwaith i’ch helpu i roi eich Cynllun Lleoedd ynghyd ac mae ar gael yma: Datblygu Cymunedau Conwy (PDF, 2.42Mb)
Bydd dogfennau a thempledi cefnogol pellach yn ogystal ag offer ymgysylltu a chanllawiau defnyddiol eraill ar gael yn fuan.
Os byddai ddiddordeb gennych mewn mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gychwyn Cynllun Lleoedd yna e-bostiwch cynlluniaulle@conwy.gov.uk.
Newyddion Diweddaraf