Unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud ar gais, byddwn yn anfon Hysbysiad o Benderfyniad i'r ymgeisydd neu'r asiant. Bydd y Rhybudd yn nodi'r rhesymau dros gymeradwyo neu wrthod y cais ac os rhoddwyd caniatâd, unrhyw amodau mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw.
Nid oes unrhyw hawl i apelio i drydydd partïon (gwrthwynebwyr) sy'n anhapus gyda’r penderfyniad cynllunio. Fodd bynnag, byddwn yn esbonio'r rheswm dros y penderfyniad a sut yr ystyriwyd eich sylwadau os ydych yn cysylltu â ni.
Os ydych yn teimlo bod eich cais wedi’i wrthod yn afresymol, mae dwy ffordd o weithredu ar gael i chi:
Diwygio ac ail-gyflwyno eich cais o fewn 12 mis i'r penderfyniad heb dalu ffi arall (gallwch ond gael un cynnig arall ar gyfer dim ffi ychwanegol), neu Apelio i'r Arolygiaeth Gynllunio gan ddilyn y canllawiau a nodir yn yr hysbysiad o’r penderfyniad.