Mae'r rhan fwyaf o geisiadau'n syml - tua 80% - ac yn cael eu penderfynu dan awdurdod dirprwyedig. Mae'r Cyngor wedi dirprwyo yr hawl i benderfynu ar fathau penodol o geisiadau cynllunio, sy'n rhai syml, yn unol â rheolau clir sydd wedi eu cyhoeddi. Mae debygol y bydd tua 80% o geisiadau cynllunio yn cael eu trin yn y modd hwn, gan gyflymu'r broses gwneud penderfyniadau.
Mae'n bosibl y gall ceisiadau cynllunio sy'n cael eu penderfynu dan bwerau wedi eu dirprwyo orfod mynd gerbron y Pwyllgor Cynllunio, er enghraifft, os yw swyddog cynllunio, tra'n prosesu cais, yn teimlo fod y cais yn fwy cymhleth nag a feddyliwyd, neu os ceir lefel sylweddol o wrthwynebiad, neu os yw Aelod o'r Cyngor yn gofyn am hynny, yn unol â Chod Ymarfer y Cyngor.
Gwasanaethau Rheoleiddio - Cynllun Dirprwyo Cynllunio