Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cam 5 – Strategaeth a Ffefrir


Summary (optional)
Y Strategaeth a Ffefrir yw’r cyhoeddiad ffurfiol cyntaf yn y broses o baratoi CDLl. Bydd y Strategaeth a Ffefrir yn darparu fframwaith strategol ar gyfer y polisïau manylach, y cynigion a’r dyraniadau datblygu yn y CDLlN.
start content

Rydym wedi cynhyrchu fideo crynodeb sy’n esbonio’r broses o gynhyrchu'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

Trawsgrifiad Fideo (PDF, 81Kb)

Crynodeb o'r strategaeth a ffefrir (PDF)

Rydym ni wedi llunio dogfen Strategaeth a Ffefrir ar gyfer CDLlN Conwy. Rydym wedi nodi ein gweledigaeth, y materion a’r amcanion. Rydym wedi nodi’r lefel dwf a ffefrir o ran tai a swyddi hefyd, a lle dylid eu lleoli.

Fe edrychon ni ar yr holl dystiolaeth pan ysgrifennon ni’r Strategaeth a Ffefrir.

Strategaeth a Ffefrir (PDF)

Fe gynhalion ni ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir rhwng 29 Gorffennaf, 2019 a 20 Medi, 2019.

Byddwn yn edrych ar y sylwadau a wnaed ar y Strategaeth a Ffefrir ac yn eu hystyried wrth i ni ysgrifennu’r Cynllun Adneuol.

Gallwch weld yr holl sylwadau a dderbyniwyd i’r Strategaeth a Ffefrir drwy’r system ymgynghori neu yn yr adroddiad sylwadau.

System Ymgynghori

Adroddiad Sylwadau (Ffeil PDF)

Cyfarwyddiadau'r System Ymgynghori (PDF)

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?