Gwarir arian A106 ar brosiectau addas yn unol â’r meini prawf yng nghytundeb A106 a’r prosesau a amlinellir ym Mhrotocol Gwariant Adran 106.
Mae angen cefnogaeth Aelodau Etholedig lleol ar lawer o brosiectau er mwyn eu cymeradwyo. Gwneir hyn trwy gytundeb drwy Fwrdd Cynllun Bro os oes un ar waith; neu, fel, arall drwy ymgynghori ag Aelodau. Dylai unrhyw un sydd eisiau gwneud cais am arian A106 er mwyn cynorthwyo i gefnogi prosiect edrych ar y canllawiau ym Mhrotocol Gwariant Adran 106. Mae fersiwn o’r ffurflen gais mewn dogfen Word y gellir ei golygu hefyd ar gael i ymgeiswyr i’w llenwi a’i chyflwyno.