Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Trefnu apwyntiad yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Trefnu apwyntiad yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref


Summary (optional)
Bydd yn rhaid trefnu apwyntiad i ymweld â’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Gallwch drefnu apwyntiad yma.
start content

Trefnu apwyntiad

Mae’n rhaid i chi drefnu apwyntiad i ymweld â’r ganolfan ailgylchu

Mae hyn er mwyn eich cadw chi a staff y ganolfan yn ddiogel ac osgoi ciwiau.

Mae pob cartref yn cael hyd at 6 ymweliad i’r safleoedd bob dau fis, i wneud yn siŵr bod pawb sydd eisiau defnyddio’r canolfannau yn gallu cael apwyntiad.

Mae’r Canolfannau at ddefnydd preswylwyr Sir Conwy a Sir Ddinbych yn unig – efallai y byddwn yn gofyn i chi am brawf o’ch cyfeiriad pan rydych yn cyrraedd y safle.

Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin cyn i chi drefnu apwyntiad os gwelwch yn dda, er mwyn i chi wybod beth ddylech ddod gyda chi a beth i’w ddisgwyl cyn mynd.

Sut ydw i’n archebu slot yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref?

Y ffordd hawsaf i archebu apwyntiad yw drwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar ein gwefan - cliciwch ar y botwm ar dop y dudalen hon. Os nad oes gennych chi fynediad i’r we, gallwch ffonio ein Tîm Cynghori ar 01492 575337.

Faint o apwyntiadau alla i archebu?

Mae pob cartref yn cael hyd at 6 ymweliad i’r safleoedd bob dau fis calendr, i wneud yn siŵr bod pawb sydd eisiau defnyddio’r canolfannau yn gallu cael apwyntiad.

A oes rhaid imi ddefnyddio’r un cerbyd ag y nodais wrth archebu’r apwyntiad?

Oes - byddwn yn gwirio’r rhif cofrestru yn erbyn yr archeb.

Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn gallu mynychu fy apwyntiad?

Os ydych chi’n gwybod ymlaen llaw na fyddwch ar gael i fynychu’r apwyntiad, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda er mwyn i ni allu cynnig yr apwyntiad i rywun arall.

A alla i ddod ag eitemau ychwanegol nad oeddwn wedi’u cynnwys ar y rhestr pan oeddwn yn archebu?

Gallwch - rydym yn gofyn am ychydig o wybodaeth am y prif eitemau yr ydych yn dod gyda chi i’n helpu i reoli’r safle.

Beth fydd yn digwydd ar ôl imi gyrraedd y Ganolfan Ailgylchu?

  • Ceisiwch gyrraedd yn brydlon, er mwyn osgoi ciwiau.
  • Arhoswch yn eich car nes y bydd staff yn gofyn i chi yrru i’r ganolfan.
  • Bydd gennych 10 munud ar y safle.  Sicrhewch eich bod yn gorffen dadlwytho eich gwastraff o fewn yr amser hwn.
  • Dim ond dau berson fydd yn cael mynd allan o’r car - dewch ag eitemau y gallwch eu cario yn unig, nid oes modd i staff helpu
  • Gwisgwch ddillad addas fel menig ac esgidiau trwm os ydych chi’n ymdrin â phethau miniog neu drwm
  • Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn trefnu eich gwastraff cyn dod, er mwyn sicrhau eich bod yn gallu dadlwytho o fewn eich slot 10 munud.
  • Parchwch ddefnyddwyr eraill ar y safle, fel bod pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus.

Os byddwch chi’n ymddwyn yn ymosodol tuag at staff ar y safle, bydd gofyn i chi adael, ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid ffonio’r Heddlu.

A oes angen i mi drefnu fy ngwastraff cartref a gwahanu’r ailgylchu?

Oes, gwnewch hyn cyn dod os gwelwch yn dda. Dylech wahanu gwydr, poteli a thybiau plastig, cartonau, tuniau, caniau a phapur a chardiau.

A oes angen imi dalu am ddod â’m sbwriel i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref?

Os ydych chi’n dod ag eitemau fel pren, rwbel, drysau plastig neu fframiau ffenestri, unedau cegin neu ystafell ymolchi, bydd yn rhaid i chi dalu ffi fechan. Gallwch weld rhestr lawn o’r eitemau a phrisiau ar ein gwefan.

Er mwyn atal oedi a lleihau cyswllt wrth y peiriannau talu, rydym yn hepgor y ffioedd arferol ar gyfer gwastraff nad yw’n wastraff cartref. Ni fyddwn yn codi tâl am hyd at 20kg o rwbel neu 5kg o bren.

Sut ydw i’n talu am ddod ag eitemau fel pren, gwastraff DIY neu fframiau ffenestri i’r Ganolfan?

Mae peiriannau talu gyda cherdyn ar gael yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Caiff y peiriannau eu diheintio’n rheolaidd. Ni allwn dderbyn taliadau gyda siec nac arian parod.

Pam na allaf ddod â fan neu threlar echel ddwbl i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref? Dyma fy ngherbyd personol, nid yw’n gerbyd masnach?

Os oes gennych chi drwydded i’ch fan neu drelar echel ddwbl, caniateir i chi drefnu apwyntiad. Gallwch wneud cais am drwydded ar lein ar ein gwefan. Bydd rhaid i chi ddweud wrthym beth yw eich rhif trwydded pan fyddwch yn gwneud eich apwyntiad.

 

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?