Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Pa eitemau sy'n rhaid i mi dalu i'w gwaredu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref?

Pa eitemau sy'n rhaid i mi dalu i'w gwaredu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref?


Summary (optional)
Gallwch ailgylchu’r rhan fwyaf o eitemau am ddim mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, fodd bynnag mae’n rhaid i chi dalu i waredu rhai eitemau. Gellir mynd â’r eitemau hyn i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref am ffi fechan.
start content

Gweler y wybodaeth am ganolfannau ailgylchu mewn Iaith Arwyddion Prydain yma.

Mae pob ffi yn ddilys ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.

Mae un bag gyfwerth â bag plastig safonol, tywod neu gerrig mân o siopau DIY, sy’n gallu cael eu cario’n ddiogel gan un person. Mae bag sydd wedi’i lenwi’n rhannol yn cyfri fel un bag.

Mae llwyth ar drelar yn seiliedig ar drelar 1.8m x 1.25m x 0.5m.

Bydd tâl am wastraff rhydd nad yw mewn bag am ffi ar gyfradd bag, yn seiliedig ar 20kg y bag am rwbel, a 20kg y bag am bren. Er enghraifft, byddai llwyth 40kg o bren gyfwerth â chost dau fag.

EitemFfioedd
Rwbel a phridd

£2.20 y bag (hyd at 20kg)
£22.00 y trelar

Cynnwys eitemau fel: brisblociau; brics; cerameg; teils; cerrig llorio; graean; llechi; pridd; cerrig a tharmac.


Hyd at 20kg am ddim

Bwrdd plastr £4.40 y bag
£33.00 y trelar

Dylai bwrdd plastr fod yn sych a heb ei gymysgu gyda deunydd arall.
Coed a phren

£4.40 y bag (hyd at 20kg)
£33.00 fesul llwyth trelar

Pren DIY/Adeiladu yn cynnwys: dodrefn wedi'u gosod; drysau a chabinetau cegin; ffensys, siediau, lloriau a deciau.

Codir ffi ar gyfradd fesul bag am eitemau pren mwy megis paledi neu baneli ffens.

Hyd at 5kg am ddim

Asbestos

£13.75 y bag neu haen

Asbestos bond yn unig. Mae’n rhaid i asbestos fod mewn bag dwbl.
Ni allwn ni dderbyn haenau mawr na symiau mawr o asbestos. Fe ddylech gysylltu â chontractwr gwastraff arbenigol er mwyn cael gwared ar hwn.

Teiars

£4.00 y teiar
Teiars car a beic modur yn unig, ni dderbynnir teiars cerbydau masnachol.

Ni chodir tâl am deiars beic.

Poteli nwy Hyd at 10kg - £6.00 yr un
11kg-20kg - £11.00 yr un
20kg + - £35.00 yr un

Poteli nwy gwag yn unig
Fframiau ffenestri plastig £3.00 yr un
Gyda neu heb wydr. Ffenestri un paen yn unig. Codir pris dwbl am ffenestri aml-baen.
Drws neu fframiau drws plastig £3.00 yr un
Gyda neu heb wydr. Drysau sengl neu fframiau drws yn unig. Codir pris dwbl am ddrysau dwbl.
Offer ystafell ymolchi £3.00 yr un
Yn cynnwys eitemau fel baddonau, lloriau cawodydd, toiledau, bidets, basnau/sinciau, sgriniau cawod ac unedau ymolchi.
Deunydd inswleiddio £3.00 y bag
Deunydd megis gwlan mwynol ac insiwleiddio gwydr ffeibr
Ffelt toi £3.00 y bag
Ffelt toi sied a garej
Peipen blastig landeri/ffasgia

£3.00 hyd at 5 darn
£6.00 hyd at 10 darn


Pam bod ffioedd ar gyfer y gwastraff hwn?

Mae gwastraff DIY neu wastraff adeiladu o waith neu welliannau yn eich cartref yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff diwydiannol, ac nid gwastraff cartref (gwastraff sy’n cael ei greu’n ddyddiol yn eich cartref). Mae Treth y Cyngor yn cwmpasu cost casglu, ailgylchu a gwaredu eich gwastraff cartref.

Nid yw'r Cyngor yn gorfod derbyn deunyddiau DIY neu adeiladu i'w waredu. Oherwydd ein bod yn deall bod preswylwyr yn creu’r math hwn o wastraff o bryd i’w gilydd, rydym yn ei dderbyn yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, gyda ffi fechan i’w thalu am gostau trin a gwaredu’r gwastraff. Nid yw’r ffioedd wedi cael eu dylunio i wneud elw, ac maent yn cael eu cadw mor isel â phosib i bawb.

Sut ydw i’n talu?

Defnyddiwch y peiriannau talu â cherdyn yn y safleoedd.

  • Dewiswch fath a chyfanswm eich gwastraff
  • Talwch y swm gofynnol
  • Cymerwch eich derbynneb
  • Dangoswch eich derbynneb i staff y safle cyn i chi ddechrau cael gwared ar y gwastraff.

Os na allwch dalu, byddwn yn gofyn i chi adael y safle gyda’ch gwastraff DIY a dychwelyd gyda’r taliad. Byddwch yn gallu cael gwared ar unrhyw wastraff y cartref am ddim.

PWYSIG: Mae staff y safle’n cadw’r hawl i wrthod mynediad i:
• unrhyw un sy’n ceisio gwaredu mathau gormodol o wastraff derbyniol (rhad ac am ddim neu fel arall),
• unrhyw un a amheuir sy’n gwaredu gwastraff masnach,
• unrhyw un sy'n torri rheolau’r safle.


end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?