Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Siop Dewis Ailddefnyddio


Summary (optional)
start content

Mae Siop Dewis Ailddefnyddio Mochdre drws nesaf i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Mochdre.

Mae sawl eitem sy’n hollol berffaith i’w hailddefnyddio yn cael eu taflu yn ein canolfan ailgylchu gwastraff cartref fel sbwriel. Mae’r eitemau hyn yn cael eu hachub a’u gwerthu yn y siop i gefnogi Hosbis Dewi Sant.

Bydd y Siop Dewis Ailddefnyddio yn adfywio eitemau sy'n cael eu taflu, gan leihau’r swm sy’n cael eu gwastraffu yn ogystal â chodi arian i elusen leol.

Rhoddion

Os oes gennych rywbeth nad oes arnoch ei angen, ond sy’n rhy dda i gael ei ailgylchu neu ei daflu eto, dewch ag o i’r warws Dewis Ailddefnyddio ger mynedfa siop Mochdre. Nid oes angen trefnu apwyntiad.

Oriau Agor

Mae Siop Ailddefnyddio Mochdre ar agor bob dydd rhwng 9am a 4:30pm.

Lleoliad

Canolfan Ailgylchu Mochdre, Bron y Nant Road, Mochdre, Bae Colwyn, LL28 4YL.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?