Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Casgliadau Arbennig Gwasanaeth Casglu Clytiau Tafladwy

Gwasanaeth Casglu Clytiau Tafladwy


Summary (optional)
Rydym yn cynnig casgliad wythnosol ar gyfer clytiau tafladwy a chynhyrchion anymataliaeth.
start content

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer aelwydydd sy'n defnyddio llawer iawn o glytiau neu gynhyrchion anymataliaeth ac sy’n gweld nad oes ganddynt ddigon o le ar gyfer yr eitemau hyn yn eu bin olwynion.

Sut mae'n gweithio

  • I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni yn affch@conwy.gov.uk neu 01492 575337.
  • Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwn yn rhoi cadi casglu bach y gellir ei gloi, bagiau casglu a gwybodaeth am y gwasanaeth hwn. Ein nod yw y bydd y rhain yn eich cyrraedd chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
  • Gallwch ddechrau defnyddio'r gwasanaeth hwn cyn gynted ag y byddwch yn cael bagiau a chadi. Rhowch y clytiau neu’r cynhyrchion anymataliaeth a ddefnyddiwyd yn y bagiau a chlymu'r bag unwaith y bydd yn llawn. Rhowch y bagiau yn eich cadi.
  • Ar eich diwrnod casglu, rhowch y cadi ar ymyl y palmant erbyn 7am. Bydd ein tîm yn gwagio eich cadi ac yn gadael bagiau newydd.
  • Os nad ydych chi wedi gadael gwastraff allan am 8 wythnos, byddwn yn dod â’r gwasanaeth casglu i ben.

Beth ydym yn ei gasglu

  • Clytiau tafladwy
  • Gwastraff newid clytiau, fel hancesi gwlyb, sachau clytiau a gwlân cotwm
  • Cynnyrch anymataliaeth (padiau, tronsiau a dillad gwely)

Nid ydym yn casglu

  • Gwastraff glanweithiol (cadachau misglwyf neu damponau).
  • Dylid rhoi’r rhain mewn bag a'u rhoi yn eich bin olwynion.
  • Gwastraff clinigol. Cysylltwch â'ch nyrs gymunedol i drefnu gwasanaeth casglu gwastraff clinigol gan y Bwrdd Iechyd.
  • Gwastraff anifeiliaid (gan gynnwys, deunydd gwely,padiau cŵn bach). Dylai’r rhain gael eu rhoi mewn bag a'u rhoi yn eich bin olwynion.
  • Rhaid gwagio stoma neu fagiau colostomi a chathetarau nad ydynt yn heintus cyn i chi eu rhoi yn eich bin sbwriel du.
  • Rhaid mynd â nodwyddau a chwistrellau i fan cyfnewid nodwyddau - holwch eich meddyg os nad oes gennych flwch offer miniog.

Mesuriadau'r bin

  • 43cm o uchder, 30cm o ddyfnder a 37cm o led
  • Capasiti: 40 litr

Diwrnodau casglu 

Dydd Llun

  • Bae Cinmel, Belgrano, Betws yn Rhos, Bont Newydd, Bryn Rhyd yr Arian, Bylchau, Cefn Berain, Dolwen, Groes, Gwytherin, Llanfair TH, Llangernyw, Llannefydd, Llansannan, Llansansior, Nantglyn, Pandy Tudur, Pensarn, Pentre Isaf, Rhos y Mawr, Towyn

Dydd Mawrth

  • Abergele, Betws y Coed, Capel Curig, Capel Garmon, Cerrigydrudion, Cwm Penmachno, Dolwyddelan, Glasfryn, Llanddulas, Llanfair GM, Llangwm, Llanrwst, Melyn y Coed, Penmachno, Pentrefoelas, Rhyd y Foel, Rhydlydan, Ty Nant, Ysbyty Ifan

Dydd Mercher

  • Bae Colwyn, Bae Colwyn Uchaf, Caerhun, Dolgarrog, Eglwysbach, Gell, Glan Conwy, Graig, Hen Golwyn, Henryd, Llanbedr y Cennin, Llanddoged, Llanelian, Maenan, Rowen, Tal y Bont, Tal y Cafn, Trefriw, Tyn y Groes

Dydd Iau

  • Capelulo, Conwy, Cyffordd Llandudno, Deganwy, Dwygyfylchi, Gyffin, Llanfairfechan, Mochdre, Penmaenmawr
  • Deganwy:
    • y rhan fwyaf o strydoedd, heblaw Bryn Gannock, Deganwy Beach, Deganwy Road, Gannock Park, Gannock Park West, Gannock Road, Llys Helyg, Marine Gardens, Platt Court, Traeth Melyn a York Road, sy'n cael eu casglu ar ddydd Gwener.

Dydd Gwener

  • Bae Penrhyn, Craig y Don, Craigside, Glanwydden, Llandrillo yn Rhos, Llandudno, Llanrhos
  • Deganwy:
    • Bryn Gannock, Deganwy Beach, Deganwy Road, Gannock Park, Gannock Park West, Gannock Road, Llys Helyg, Marine Gardens, Platt Court, Traeth Melyn and York Road. Mae strydoedd eraill yn cael eu casglu ar ddydd Iau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os nad oes angen y gwasanaeth hwn arnoch bellach, cysylltwch â'r Tîm Cynghori ar yr Amgylchedd drwy anfon neges e-bost afch@conwy.gov.uk neu drwy ffonio 01492 575337.

end content