Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Help ar Gael


Summary (optional)
Mwy o wybodaeth am iechyd meddwl a lles, llefydd i gael cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth.
start content

Os ydych chi’n orbryderus, yn poeni, yn isel eich ysbryd a bod eich teimladau’n effeithio’n sylweddol ar eich bywyd, gallwch gael cymorth a chefnogaeth.

Bydd y sefydliadau a’r gwasanaethau isod yn darparu mwy o wybodaeth a chyngor i chi. Os ydych chi angen cymorth ar frys, ffoniwch 999, neu ewch i’ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf, os ydych chi’n teimlo’n saff i wneud hynny.

Tîm Lles Meddyliol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae’r tîm yn gweithio gyda phobl sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl ac emosiynol, fel gorbryder ac iselder, sydd ddim angen triniaeth feddygol gan nyrs neu feddyg.

Mae’r tîm yn annog ffordd gadarnhaol o drin eich lles meddyliol ac yn rhoi cyfle i chi weithio gyda ni i fynd i’r afael â’r problemau sydd o bosib wedi cyfrannu at eich amgylchiadau presennol. Mae’r tîm yn eich ystyried chi’n arbenigwr ar eich sefyllfa eich hun a bydd yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i atebion a chanlyniadau i’r problemau rydych chi’n eu profi.

Cysylltu â’r tîm

Dydd Llun / Dydd Iau  9am - 4.45pm
Dydd Gwener  9am - 4.15pm

0300 456 1111

Ar unrhyw adeg arall, cysylltwch â’r Tîm Tu Allan i Oriau

 

Gwasanaethau Iechyd


Mae hwb iechyd meddwl a lles yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i'ch helpu i gael gafael ar gefnogaeth amrywiol y gallech fod ei angen.

Gallwch gysylltu â’ch meddyg teulu am gyngor a chymorth gyda’ch iechyd meddwl

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content