Mae pum prif egwyddor y mae angen eu dilyn wrth benderfynu a oes gan unigolyn ddigon o allu i wneud penderfyniad penodol.
1. Rhaid tybio bod unigolyn â gallu oni bai y canfyddir bod diffyg gallu ganddynt.
2. Ni ddylid trin unigolyn fel un nad yw'n gallu gwneud penderfyniad oni bai y cymerwyd pob cam ymarferol i'w helpu heb lwyddiant
3. Ni ddylid trin unigolyn fel un nad yw'n gallu gwneud penderfyniad ddim ond oherwydd iddynt wneud penderfyniad annoeth yn unig.
4. Rhaid i gam gweithredu a gyflawnir, neu benderfyniad a wneir, dan y Ddeddf hon ar gyfer neu ar ran unigolyn sydd â diffyg gallu fod er lles gorau yr unigolyn
5. Cyn cyflawni'r cam gweithredu, neu wneud y penderfyniad, rhaid ystyried a ellir cyflawni'r pwrpas y mae angen hyn ar ei gyfer, yr un mor effeithiol ac mewn ffordd sy'n cyfyngu llai ar hawliau a rhyddid gweithredu'r unigolyn.
Mae modd i allu newid dros amser ac yn ôl pa benderfyniadau mae angen eu gwneud. Mae hefyd yn benodol i amser a phenderfyniadau ac nid yw 'penderfyniad annoeth' a wneir gan yr unigolyn yn ei hun yn dynodi diffyg gallu.
Mae angen ystyried y ffactorau canlynol wrth bennu gallu ar gyfer penderfyniad penodol:
- A oes gan yr unigolyn ddealltwriaeth gyffredinol o ba benderfyniad mae angen iddynt ei wneud a pham bod angen iddynt ei wneud?
- A yw'n deall canlyniadau gwneud, neu beidio â gwneud, y penderfyniad, neu o benderfynu'r naill ffordd neu'r llall?
- A yw'n gallu deall yr wybodaeth sy'n berthnasol i'r penderfyniad hwnnw?
- A yw'n gallu pwyso a mesur pwysigrwydd cymharol y wybodaeth?
- A yw'n gallu defnyddio a chadw'r wybodaeth fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau?
- A yw'n gallu cyfathrebu'r penderfyniad mewn unrhyw fodd, gan gynnwys agor a chau llygad neu wasgu llaw?
Dylid cyfeirio at y Cod Ymarfer wrth ddelio ag unigolyn sydd â phroblemau galluedd meddyliol p'un ai rydych yn ofalwr neu'n weithiwr proffesiynol sy'n cyfrannu at ofal yr unigolyn.
Gwneud Penderfyniadau Arweiniad i bobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Gwneud Penderfyniadau - arweiniad i deuluoedd, ffrindiau a gofalwyr di-dâl eraill
Gwneud Penderfyniadau arweiniad i weithwyr cynghori
Deddf Gallu Meddyliol - Cod Ymarfer