Dan adran 7 Deddf Iechyd Meddwl 1983 gellir penodi gwarcheidwad i helpu pobl sydd ag anhwylder meddwl, os yw dau feddyg a Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yn dweud fod angen hynny. Unigolyn o'ch Adran Gwasanaethau Cymdeithasol neu un sydd wedi'i gymeradwyo ganddynt yw'r gwarcheidwad. I rai unigolion, y mae eu bywyd wedi mynd ychydig yn anhrefnus, gall y strwythur a gynigir gan orchymyn eu hannog i ddychwelyd at ffordd o fyw mwy sefydlog.
Gall y gorchymyn nodi efallai bod yn rhaid i chi:
-Fyw mewn lle penodol
-Mynd i gael triniaeth feddygol, addysg alwedigaethol neu hyfforddiant mewn llefydd penodol ac ar amseroedd penodol
-Caniatáu i feddyg; gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol; neu unigolyn arall a enwir i'ch gweld.
Gall y Gorchymyn Gwarcheidwadaeth barhau hyd at chwe mis yn y lle cyntaf a gellir ei adnewyddu. Os yw unigolyn yn dymuno peidio â bod dan Warcheidwadaeth, dylent drafod hynny'n gyntaf gyda'u Gwarcheidwad, Clinigwr Cyfrifol neu Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy. Hefyd gall yr unigolyn ofyn i Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru ryddhau'r Warcheidwadaeth.