Cafodd y cysyniad o ddinasoedd neu gymunedau sy'n gyfeillgar i oed ei ddatblygu gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn rhan o fenter fyd-eang i adnabod y newidiadau sydd eu hangen er mwyn i ddinasoedd a chymunedau addasu i ac elwa o boblogaethau sy’n heneiddio.
Mae Conwy wedi ymrwymo i fod yn gymuned sy’n gyfeillgar i oed, ac rydym yn gweithio tuag at ennill y statws hwn.
Beth yw cymunedau sy'n gyfeillgar i oed?
Mae cymuned sy’n gyfeillgar i oed yn creu amgylchedd sydd yn galluogi pobl o bob oed i heneiddio’n dda drwy ddarparu cyfleoedd i fod yn iach, heini a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol. Maen nhw’n arbennig o bwysig i alluogi pobl hŷn i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu ac i:
- fynd allan o gwmpas
- gwneud y pethau maen nhw eisiau eu gwneud
- derbyn y wybodaeth ddiweddaraf
- byw bywydau iach ac egnïol
- cael llais
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ymrwymo i gefnogi creu cymunedau sy'n gyfeillgar i oed ar draws Cymru. Drwy weithredu ei strategaeth Cymru o Blaid Pobl Hŷn, mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol yng Nghymru i weithio gyda’r Comisiynydd i fod yn gyfeillgar i oed. Mae’r broses o ddod yn gyfeillgar i oed yn cynnwys unigolion, grwpiau lleol, gwasanaethau a busnesau sy’n dod at ei gilydd i wneud newid cadarnhaol i alluogi pobl i heneiddio’n dda.
Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i ni weithio tuag at ennill statws cyfeillgar i oed.
Dolenni defnyddiol a darllen pellach