Canolfan Deuluoedd Canolog: Canolfan Ffordd Douglas, Ffordd Douglas, Bae Colwyn, LL29 7PE
Cysylltwch â'r Tîm Cefnogi Teuluoedd: Canolog
E-bost: teuluoedd.canolog@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 576503
Beth sydd ar gael
- Grwpiau, sesiynau chwarae a gweithgareddau i'r teulu cyfan
- Gwybodaeth a chyngor
- Cyrsiau ar wneud y gorau o fywyd teuluol
- Cefnogaeth gan Weithiwr Teuluol
- Mynediad at gefnogaeth gan bobl eraill (er enghraifft cyngor ar fudd-daliadau, cam-drin domestig, gwasanaeth awtistiaeth, gweithiwr ieuenctid, cwnsela, ymwelwyr iechyd, a llawer mwy)
- Mae croeso i chi alw heibio, mae paned ar gael bob amser a wyneb cyfeillgar
Mae’r gweithgareddau yma ymlaen:
content
Canolfan Ffordd Douglas, Bae Colwyn
9:30am tan 1pm: Sesiwn Galw Heibio Uned Diogelwch Trais Teuluol (DASU)
Cyngor a chefnogaeth ynghylch cam-drin domestig a pherthnasoedd iach.
12:30pm-2:30pm: Grŵp Cymorth Bwydo ar y Fron
Gyda'r Ymwelydd Iechyd Sara Jones
1pm-4:30pm: Sesiwn Gweithio’n Iach
Cefnogi pobl gydag anghenion iechyd meddwl i ganfod a chadw cyflogaeth. I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Jade:07492 578173 / jade.jackson@rcs-wales.co.uk
content
Canolfan Ffordd Douglas, Bae Colwyn
1:15pm-2.15pm: Cymraeg i Blant
Amser stori a rhigwm yn Gymraeg gyda Jen Dafydd.
6pm-8pm: THRIVE
Darpariaeth gaeedig sy’n wedi’i thargedu at bobl ifanc 11-25 oed, sydd angen cymorth gyda’u lles. Ar sail atgyfeiriad yn unig. Cysylltwch â gemma.davison-lemalle@conwy.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
content
Canolfan Ffordd Douglas, Bae Colwyn
9:15am-10:15am: Chwarae a Chanu i Blant Bach
Canu, dawnsio ac amser i chwarae ar gyfer plan 0-4 oed.
3:30pm-4:30pm: Clwb Canolog
Sesiwn chwarae rhyngweithiol ar gyfer plant 4-11 oed.
content
Canolfan Ffordd Douglas, Bae Colwyn
9am-4pm: Sesiynau Galw Heibio Hawliau Lles
Galwch heibio am gyngor a chymorth ynglŷn â budd-daliadau gyda Swyddog Hawliau Lles.
10am-11am: Paned a Sgwrs
Paned a sgwrs gyda sefydliadau gwadd gwahanol bob wythnos.
content
Canolfan Ffordd Douglas, Bae Colwyn
10am-12pm: Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru
Ydych chi’n cefnogi plentyn neu oedolyn awtistig? Ydych chi’n awtistig? Ydych chi angen cyngor? Dewch draw i’n sesiwn galw heibio bob pythefnos gyda Sally Mayall
1.45pm-3.15pm: Gwella Creadigol
Mae’r sesiynau / grwpiau wedi anelu at fynd i’r afael a gwella eich lles meddyliol.
Mae archebu’n hanfodol - cysylltwch â Jane am fwy o wybodaeth:07827 391170 / Jane.Bell-Hughes@Conwy.gov.uk
3.15pm-4:30pm: Mae’r ysgol wedi cau!
Clwb Ieuenctid ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Ieuenctid i ran 11+
Os hoffech dderbyn ein hamserlen gweithgareddau mewn fformat gwahanol, neu gopi papur, cysylltwch â'r tîm.