Canolfan Deuluoedd - De: Canolfan Deuluoedd Llanrwst, Stryd Watling, Llanrwst, LL26 0LS
Mae’r ganolfan ar gau ar gyfer gwaith adnewyddu ar hyn o bryd, ond peidiwch â phoeni, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, ar e-bost ac yn unrhyw un o’r sesiynau galw heibio.
Cysylltwch â'r Tîm Cefnogi Teuluoedd: De
E-bost: teuluoedd.de@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 574140
Beth sydd ar gael
- Grwpiau, sesiynau chwarae a gweithgareddau i'r teulu cyfan
- Gwybodaeth a chyngor
- Cyrsiau ar wneud y gorau o fywyd teuluol
- Cefnogaeth gan Weithiwr Teuluol
- Mynediad at gefnogaeth gan bobl eraill (er enghraifft cyngor ar fudd-daliadau, cam-drin domestig, gwasanaeth awtistiaeth, gweithiwr ieuenctid, cwnsela, ymwelwyr iechyd, a llawer mwy)
- Mae croeso i chi alw heibio, mae paned ar gael bob amser a wyneb cyfeillgar
Mae’r gweithgareddau yma ymlaen hefyd:
content
9:30am - 12pm: Cyngor Budd-dal
Llyfrgell Llanrwst, Plas yn Dre, Llanrwst, LL26 0DF
Mae tîm Hawliau Lles Conwy yn gallu rhoi cyngor i chi ar fudd-daliadau a chymorth arall y gallech fod â hawl iddyn nhw. Cysylltwch a'r ganolfan deulu am apwyntiad.
10am: Enaid Bach - Grŵp Lles Mam a Babi. Addas ar gyfer babis o 5 wythnos hyd at gropian. Cewch ddysgu am dechnegau adweitheg arbennig i fabis ac ioga araf
Mae'n rhaid archebu lle
3pm tan 3:30pm: Clwb Hanner Awr
Canolfan Ieunctid Llanrwst, Watling Street, Llanrwst, LL26 0LS
Galwch heibio am sgwrs pan fyddwch chi yn nôl y plant o'r ysgol.
content
9:30 - 12pm: DASU
Llyfrgell Llanrwst, Plas yn Dre, Llanrwst, LL26 0DF
Uned Diogelwch Trais Domestig. Cyngor a chefnogaeth gan Olivia ynglyn â cam-drin domestig a pherthnasoedd iach.
10am - 12pm: Clwb Babanod
Llyfrgell Llanrwst, Plas yn Dre, Llanrwst, LL26 0DF
Galwch heibio am sgwrs a chwrdd â rhieni eraill. Cefnogaeth bwydo babanod ar gael, i fabanod 0-12 mis oed. Gyda’r Ymwelydd Iechyd Emma ac Ann.
10am-12pm: Hadau Newid - Cwrs Lles 4 wythnos. Dechrau ar 7 Ionawr
Cysylltwch â Jane i archebu lle: 07827 391170
1:30pm tan 3:30pm: Relate
Llyfrgell Llanrwst, Plas yn Dre, Llanrwst, LL26 0DF
Sesiynau cwnsela am ddim i unigolion, cyplau neu deuluoedd. Cysylltwch â ni am wybodaeth, yna byddwn yn cysylltu â Relate ar eich rhan chi.
3pm tan 4:15pm: Sesiwn Chwarae Synhwyraidd
Canolfan Ieunctid Llanrwst, Watling Street, Llanrwst, LL26 0LS
Sesiwn chwarae anghenion dysgu ychwanegol. Sesiwn chwarae rhyngweithiol sy’n canolbwyntio ar brofiadau synhwyraidd.
content
9.30am-11.30am: Llyfrgell Fenthyca Synhwyraidd STAND. Dydd Mercher 1af bob mis Teganau synhwyraidd, offer bach a llyfrau
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at emma@standnw.org neu ffoniwch 07749 998708
content
9.30am-2.30pm: STEPS. Cwrs 6 wythnos yn dechrau ar 6 Chwefror. Syniadau ymarferol ar gyfer cymhelliant, hunan ddelwedd a gosod targedau
Cysylltwch i archebu lle
10.30am: Amser Stori
Sesiwn a gynhelir gan dîm y llyfrgell
1.30pm-2.45pm: Aros a Chwarae
. Sesiwn hwyliog i chi a’ch plentyn cyn-ysgol
2pm tan 4pm: Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig - Galw Mewn
Llyfrgell Llanrwst, Plas yn Dre, Llanrwst, LL26 0DF
Pob pythefnos, galwch i fewn am sgwrs hefo Adrian. Dechrau ar 9 Ionawr
content
9.30am - 12pm: Hwb Cyflogaeth Conwy
Llyfrgell Llanrwst, Plas yn Dre, Llanrwst, LL26 0DF
Os ydych yn ddi-waith, rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i waith sydd yn iawn i chi.
10.30am-11.30am: Tylino Babanod. Cwrs 5 wythnos. Amser i ymlacio gyda’ch babi
Cysylltwch am fwy o wybodaeth am ddyddiadau, lleoliad ac i archebu lle
3pm tan 3:30pm: Clwb Hanner Awr
Canolfan Ieunctid Llanrwst, Watling Street, Llanrwst, LL26 0LS
Galwch heibio am sgwrs pan fyddwch chi yn nôl y plant o'r ysgol.
3:45pm tan 5:45pm: Gofalwyr Ifanc
Llanrwst Guide Hall, Talybont Road, Llanrwst, LL26 0AU
Cysylltwch â’r Ganolfan Deulu am fwy o wybodaeth.
Os hoffech ei dderbyn mewn fformat gwahanol, neu gopi papur, cysylltwch â'r tîm.