Pwy mae'r tîm yn ei helpu?
Ni yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer:
- Addasiadau Tai
- Pobl Hŷn
- Anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau
- Anableddau dysgu
- Therapi galwedigaethol
- Gofalwyr
Nid ydym yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer:
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl - Siaradwch â'ch meddyg teulu
- Cyngor ar Gyffuriau ac Alcohol - Siaradwch â'ch meddyg teulu
- Plant a Theuluoedd - Siaradwch â’r Swyddog ar Ddyletswydd ar (01492) 575111
A yw'n wasanaeth cyfrinachol?
Ydi, bydd ein tîm yn siarad â chi’n gyfrinachol. Byddant yn gofyn cwestiynau amdanoch chi neu unigolyn rydych yn ffonio ar eu rhan, i gael gwybod pa wasanaeth sy’n gweddu orau i'ch anghenion.
Beth os ydw i'n ffonio ar ran rhywun arall?
Oni bai ei bod yn sefyllfa o argyfwng, mae’n rhaid i'r person hwnnw fod wedi rhoi eu caniatâd er mwyn i ni wneud atgyfeiriad.
A ydych ond yn gweithio gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd?
Nac ydym, mae gennym gysylltiadau cryf ag asiantaethau eraill a sefydliadau gwirfoddol lleol hefyd. Byddwn yn eich cyfeirio atynt os credwn y gallant eich helpu, neu gallwch chwilio amdanynt eich hun ar wefan Dewis Cymru.
Gwneud newidiadau i’ch cartref
Os oes arnoch chi angen addasiadau yn eich cartref er mwyn ei gwneud yn haws i symud o gwmpas, cysylltwch â ni. Y ffordd gyflymaf yw gwneud cais ar-lein.
Byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion a sut ydych chi’n meddwl y gall therapi galwedigaethol eich helpu chi.
Sut ydw i'n cysylltu â'r tîm?
- Ffôniwch ni: 0300 456 1111, Dydd Llun i Ddydd Gwener
- E-bostiwch i ni: lles@conwy.gov.uk
- Gyrrwch Neges Destun atom (ymholiadau cyffredinol yn unig): 07797 870 361
- Ysgrifennwch atom:
Un Pwynt Mynediad
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN