Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwybodaeth Cyngor a Chymorth


Summary (optional)
Ydych chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod angen gwybodaeth a chyngor i’ch helpu i aros yn iach? Ffôn 0300 456 1111.
start content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a sefydliadau cymunedol eraill i ddarparu gwybodaeth a chyngor ar iechyd, lles a chymorth gofal, i drigolion Sir Conwy.

Os ydych eisiau gwybod am eich grŵp cefnogi gofalwyr lleol; â diddordeb mewn darganfod pa ddosbarthiadau sydd ar gael yn eich canolfan gymunedol leol; neu eisiau dod o hyd i rif ffôn y grŵp gwau lleol er mwyn mynd allan o’r tŷ a chyfarfod pobl newydd – mae’r holl wybodaeth ar gael ar ben arall y ffôn.

end content