Dim ond â sefyllfaoedd brys na allant aros tan y diwrnod gwaith canlynol y bydd y Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng yn delio â nhw.
Mae modd cysylltu â’r TDA ar: 0300 123 3079
Pryd mae cymorth ar gael?
- Dydd Llun i ddydd Gwener: 5pm – 9am
- Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gwyliau Banc: 9am – 9am
Bydd Cydgysylltydd y Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng yn cynnig gwybodaeth neu’n cyfeirio unigolion at sefydliadau eraill all gynnig cymorth.
Pwy mae’r Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng yn eu helpu?
- Unrhyw un sy’n amau fod plentyn neu oedolyn diamddiffyn mewn perygl uniongyrchol o gael eu niweidio neu eu hesgeuluso.
- Unrhyw un sydd â phryderon uniongyrchol difrifol am iechyd meddwl unigolyn arall allai ei roi ei hun neu unigolyn arall mewn perygl.
- Plant neu bobl ifanc sy’n chwilio am gyngor brys ar unwaith.
- Teuluoedd sy’n cael trafferthion tyngedfennol gyda’u plant.
- Pobl ifanc 16 oed neu hŷn sy’n ddigartref.
Nid yw hon yn rhestr gyflawn.
Gwasanaethau eraill
Os nad ydych chi’n siŵr pa un o Wasanaethau’r GIGy dylech chi gysylltu â nhw, mae cyngor ar gael ar wefan Galw Iechyd Cymru. Bydd y ddolen isod yn mynd â chi yno.
Mae Canolfannau Mi Fedraf yn fannau cymunedol sy’n rhoi cyfle i bobl drafod eu problemau gyda phobl sy’n gwrando heb farnu, a chael mynediad at y gwasanaethau a’r cymorth y maen nhw eu hangen.
Os hoffech chi drafod unrhyw faterion iechyd meddwl, cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth.
Y rhif ffôn ar gyfer y gwasanaeth Meddyg Teulu y tu allan i oriau Gogledd Cymru yw: 0300 123 5566.
Gwybodaeth amdanoch chi
Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol bolisi ar y defnydd o wybodaeth bersonol, ac mae’n rhaid i ni ei ddilyn.
Bydd rhaid i ni ofyn i chi am wybodaeth er mwyn i ni allu eich helpu. Gan amlaf, cyn i ni rannu gwybodaeth am eich argyfwng â gwasanaethau eraill y tu allan i’r Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i wneud hynny.
Canmoliaeth neu gŵyn
Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau am ein gwasanaethau – boed y rheiny’n dda neu’n ddrwg. Mae gennym ddiddordeb clywed sut y gallwn ni wneud yn well, ac rydym yn hoffi cael gwybod pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth yn dda. Bydd y ddolen isod yn mynd â chi at ein tudalen Cwynion a Chanmoliaeth.