Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Diogelwch ar y Rhyngrwyd


Summary (optional)
Gwybodaeth a chyngor ar gadw’n ddiogel ar-lein
start content

Cadw’ch teulu’n ddiogel ar-lein – dydi hi byth yn rhy gynnar i roi pethau yn eu lle i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein.Dyma ein hawgrymiadau gwych ar gadw’n ddiogel ar-lein.



Rhestr Wirio:

  1. Rheolaethau Rhieni

    Pa ddyfeisiau y mae’ch plentyn yn eu defnyddio?

    Bydd y canllaw gam wrth gam yma yn eich helpu chi osod y rheolaethau a’r gosodiadau preifatrwydd cywir ar rwydweithiau, dyfeisiau, apiau a safleoedd y mae’ch plant yn eu defnyddio er mwyn iddyn nhw gael profiadau saffach ar-lein.

    Rhestr wirio: Rhoi’r gosodiadau diogelwch cywir ar ddyfeisiau’ch plentyn - Internet Matters

  2. Chwilio Diogel

    Ydi’ch plant chi’n defnyddio peiriannau chwilio?

    Mae gan y rhan fwyaf o beiriannau chwilio nodwedd’ SafeSearch’ sy’n caniatáu i chi gyfyngu ar y cynnwys y mae’ch plentyn yn ei weld ar-lein. Chwiliwch am y botwm ‘Settings’ ar dudalen hafan eich porwr gwe. Gall eich plentyn hefyd ddefnyddio peiriannau chwilio addas i blant, fel KidRexKiddle a Swiggle

  3. Cyfryngau cymdeithasol ac apiau

    Ydi’ch plant chi’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol?

    Mae yna lwythi o apiau ar gael, ac mae’n anodd dal i fyny efo nhw i gyd. Cyn i’ch plentyn ddefnyddio ap newydd, cofiwch wirio ei fod yn ddiogel. Bydd wybodus - y diweddaraf ar apiau, cyfryngau cymdeithasol a gemau i deuluoedd

  4. Gemau ar-lein – gwybod be’ sy’n ddiogel

    Ydi’ch plant chi’n chwarae gemau ar-lein?

    Mae gan bob gêm dystysgrif oedran, a dydi gemau ddim yn addas i blant sy’n iau na’r oedran a argymhellir. Mae Childline yn eich helpu chi ddeall gemau ar-lein, y pethau da, y peryglon a sut i gadw'ch plant yn saff.

Mynegi’ch pryderon

Os ydych chi’n poeni bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl neu’n cael ei gam-drin ar-lein:

 

Dolenni defnyddiol eraill

 

Cymorth Pellach

Yma fe gewch chi fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi a’ch teulu.

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content