Cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol – dyma rai ffyrdd y gallwn sicrhau bod hyn yn digwydd.
Dysgwch fwy
Bydd y ffilmiau byr ‘Parents Protect’ hyn yn dweud yr hyn yr ydych angen ei wybod am gam-drin plant yn rhywiol a sut i’w rwystro, gan gynnwys adnabod yr arwyddion.
Rhaglen Dysgu Cam-drin Rhywiol - Rhieni yn Amddiffyn
Creu Cynllun Diogelwch Teulu
Gall gynllun diogelwch teulu i’ch helpu i greu amgylchedd mwy diogel, addysgu pawb yn y teulu a chael trafodaethau pwysig.
Mae gan ‘Lucy Faithfull Foundation’ dempled sy’n gwneud hyn yn hawdd i chi.
Rhieni Amddiffyn - Creu cynllun diogelwch teulu
Siarad Pants
Nid yw hi fyth yn rhy gynnar i siarad gyda’ch plant am breifatrwydd a’r hyn sy’n iawn a ddim yn iawn. Mae’r Pantosorws yn gwneud hyn yn hawdd.
Siarad PANTS ac Ymuno â Pantosaurus - Y Rheol Dillad isaf
Aros yn ddiogel ar-lein
Cadw’ch teulu’n ddiogel ar-lein – dydi hi byth yn rhy gynnar i roi pethau yn eu lle i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein.
Ein prif gynghorion ar ddiogelwch ar-lein
Adnabod yr arwyddion o Gam-fanteisio’n Rhywiol
Dyma fath o gam-drin plant yn rhywiol. Dyma lle mae unigolyn neu grŵp yn cymryd mantais o anghydbwysedd pŵer, i dwyllo plentyn (unrhyw un o dan 18) i dderbyn ‘rhywbeth’ yn gyfnewid am berfformio gweithredoedd rhywiol, a/neu gael eraill i berfformio gweithredoedd rhywiol arnynt.
Gall ‘rywbeth’ olygu pethau materol megis, rhywle i fyw, bwyd, cyffuriau, alcohol, sigaréts, anrhegion neu arian. Gall hefyd olygu pethau emosiynol megis: statws, amddiffyniad, hoffter, rhywun i siarad â nhw, neu berthynas:
Ydych chi'n poeni bod eich plentyn yn cael ei ecsbloetio'n rhywiol?
Ymddygiad rhywiol plant – gwybod beth sy’n iawn a beth sydd ddim
Bydd y wybodaeth hon sy'n seiliedig ar liwiau goleuadau traffig yn eich helpu i adnabod beth sy'n arferol a beth sy'n peri pryder o ran ymddygiad rhywiol ymysg plant a phobl ifanc:
l Rhieni Amddiffyn - Offer golau traffig i rieni gofalwyr a gweithwyr proffesiynol
Byddwch yn barod i wrando
Nid yw’n hawdd i blant a phobl ifanc i ddweud wrth oedolion am eu pryderon. Gall oedolyn y gallant ymddiried ynddo wneud gwahaniaeth enfawr.
Os yw plenty yn dod atoch chi, gwnewch yn siŵr eich boch chi’n eu cymryd o ddifrif, yn gwrando’n ofalus, tawelu eu meddwl, yn gwneud nodyn o’r hyn maen nhw wedi ei ddweud, ac yn trosglwyddo’r wybodaeth.
Adrodd eich pryderon
Cymorth Pellach
Os hoffech drafod unrhyw un o’r pethau hyn a chael cymorth fel teulu, dewch o hyd i’r tîm lleol yma:
Bywyd Teuluol Conwy
Os ydych wedi profi cam-drin rhywiol ac yr hoffech roi gwybod amdano, cysylltwch a’r Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol leol
Canolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol - Amethyst - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Os ydych chi wedi profi cam-drin rhywiol fel plentyn, a’ch bod bellach yn oedolyn, mae cymorth a chefnogaeth ar gael gan Stepping Stones Gogledd Cymru
Stepping Stones (steppingstonesnorthwales.co.uk)