Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru


Summary (optional)
Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru (BDGC) yn gorff statudol sy'n cydlynu, monitro a herio ei asiantaethau partner wrth Ddiogelu Plant ac Oedolion mewn Perygl yng Ngogledd Cymru.
start content
Mynd i dudalen gwe Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
Ewch

Mae gan fyrddau diogelu rôl unigryw i'w chwarae. Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn gweld mai ei swyddogaeth yw gwneud "Diogelu yn fusnes i bawb”

Beth yw diben Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru?

  • Cyfrannu tuag at sicrhau bod y polisi a’r gweithdrefnau cenedlaethol yn cael eu
  • monitro ac yn parhau i fod yn addas at y diben, gan ymgysylltu â'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a Byrddau
  • Diogelu eraill
  • Codi ymwybyddiaeth ledled ardal y Bwrdd, o amcan y Bwrdd o ran Diogelu ac Atal, a darparu gwybodaeth ynghylch sut y gellid cyflawni hyn.
  • Adolygu effeithiolrwydd y mesurau a gymerwyd gan bartneriaid y Bwrdd
  • Diogelu a chyrff a gynrychiolir ar y Bwrdd
  • Ymgymryd ag Adolygiadau Ymarfer Plant ac Adolygiadau Ymarfer Oedolion
  • Cynnal archwiliadau, adolygiadau ac ymchwiliadau yn unol â'r amcanion
  • Adolygu perfformiad y Bwrdd a'i bartneriaid a gynrychiolir ar y Bwrdd wrth gyflawni ei amcanion
  • Lledaenu gwybodaeth am arfer gorau a dysgu sy'n deillio o adolygiadau
  • Hwyluso ymchwil i amddiffyn ac atal camdrin ac esgeuluso plant ac oedolion sydd
    mewn perygl o niwed
  • Adolygu anghenion hyfforddiant yr ymarferwyr hynny sy'n gweithio yn ardal y Bwrdd ac i nodi gweithgareddau hyfforddi a sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar sail ryngasiantaethol a sail sefydliadol unigol i gynorthwyo wrth amddiffyn ac atal cam-drin ac esgeuluso plant.
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?