Beth yw Radicaleiddio?
Radicaleiddio yw’r broses lle mae unigolyn yn dechrau credu a chefnogi naratif a syniadau nes eu bod yn ymrwymo i ideoleg neu grŵp eithafol. Fe allant gael eu radicaleiddio gan rywun sy’n manteisio arnynt ac yn camfanteisio arnynt. Fe allant radicaleiddio eu hunain drwy wylio deunyddiau eithafol ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Gall unigolion, yn ferched neu’n ddynion, hen neu ifanc, ddod o unrhyw gefndir, cymuned neu grefydd.
Beth yw Prevent?
Mae Prevent yn rhan o strategaeth gwrthderfysgaeth y DU, sy’n cael ei alw yn Contest. Nod Prevent yw:
- Mynd i’r afael ag achosion o radicaleiddio ac ymateb i her ideolegol terfysgaeth
- Diogelu a chefnogi’r rhai sydd mewn perygl mwyaf o gael eu radicaleiddio drwy ymyrryd yn gynnar
- Galluogi’r rheiny sydd wedi ymgysylltu yn barod mewn terfysgaeth, i ymddieithrio ac adsefydlu.
I gael rhagor o wybodaeth, gwyliwch fideo’r Swyddfa Gartref sydd yn rhoi cyflwyniad am sut mae Prevent yn gweithio.
Adnabod arwyddion o radicaleiddio
Mae Prevent yn dibynnu ar gefnogaeth a gwybodaeth gymunedol i adnabod ac amddiffyn pobl. Cyfeillion a ffrindiau yn aml yw’r rhai cyntaf i adnabod arwyddion pryderus o’r newidiadau. Gall y rhain fod yn newidiadau bach neu fawr, sy’n digwydd yn gyflym neu dros gyfnod hirach o amser. Os ydych chi’n teimlo bod rhywbeth o’i le, gweithredwch yn gynnar a rhannwch eich pryderon.
Bygythiad enbyd
Os ydych chi wedi gweld person yn ymddwyn yn amheus neu os ydych chi wedi gweld cerbyd, pecyn neu fag wedi’i adael a all fod yn fygythiad enbyd, symudwch draw a ffoniwch 999.