Fel Cyngor, rydym yn credu fod gan bob plentyn ac oedolyn yr hawl i fod yn ddiogel rhag niwed. Mae'r Cyngor yn cydnabod ei rôl a'i gyfrifoldebau i roi arweiniad pendant i staff, i Gynghorwyr, i bartneriaid ac i'r bobl hynny yr ydym yn eu gwasanaethu yn y maes allweddol hwn.
Mae Diogelu yn berthnasol i bawb ym mhob Gwasanaeth o fewn y Cyngor. Er mai'r Gwasanaethau Cymdeithasol yw'r Gwasanaeth Arweiniol ar gyfer delio ag ymholiadau sy'n ymwneud â honiadau / pryderon y gallai plant ac oedolion fod yn dioddef niwed sylweddol, mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu lles plant, pobl ifanc ac oedolion, beth bynnag yw rôl yr unigolyn.
Mae Diogelu yn gysyniad ehangach nag amddiffyn plant ac oedolion ac mae'n ymwneud â hyrwyddo:
- Iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol;
- Diogelu rhag niwed ac esgeulustod;
- Addysg, hyfforddiant a hamdden;
- Cyfraniad at gymdeithas;
- Lles cymdeithasol ac economaidd.
Sut i roi gwybod am bryder?
Dyfai unrhyw aelod o staff sy'n pryderu am ddiogelwch unigolyn, neu am ymddygiad cydweithiwr tuag at blant neu oedolyn gysylltu â'r Rheolwr Dynodedig yn y Gwasanaeth ar unwaith.
Os oes pryder am blentyn:
Gwasanaeth Cymdeithasol Conwy
Yn ystod oriau swyddfa (8.45yb tan 5.15yp) ffoniwch 01492 575111
Tu allan i oriau swyddfa ffoniwch 0300 123 3079
Os oes pryderon am oedolyn:
Un Pwynt Mynediad
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
Ffôn: 0300 456 1111
Ffacs: 01492 576 330
Neges destun (ar gyfer ymholiadau cyffredinol): 07797 870361
Ebost: lles@conwy.gov.uk