Mae gan Llais dair prif swyddogaeth:
- Ymgysylltu â phobl a chymunedau am eu profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gwrando arnynt
- Cynrychioli pobl a chyflwyno eu safbwyntiau i ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
- Darparu gwasanaeth eiriolaeth yn ardal pob bwrdd iechyd ar gyfer cwynion ffurfiol am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
Nid yw eiriolwyr cwynion Llais yn rhoi cyngor meddygol na chyngor am ofal cymdeithasol ond gallant eich cefnogi chi i ddeall a dod o hyd i’ch ffordd drwy’r broses gwynion.
I gael gwybod mwy am Llais ewch i’w gwefan. Fel arall gallwch gysylltu â thîm Gogledd Cymru ar 01978 356178 neu 01248 679284, neu anfon e-bost at: northwalesenquiries@llaiscymru.org.