A hoffech wybod mwy am gefnogaeth leol i bobl awtistig?
A hoffech gael gwybodaeth am awtistiaeth a chyflyrau niwrowahanol eraill?
Dewch i’r Ystafell Arddangos yng Nghoed Pella, Ffordd Conwy, Bae Colwyn, LL29 7AZ ar ddydd Mawrth 19 Mawrth o 1.30pm tan 4.30pm. Mae croeso i chi ymuno â ni unrhyw bryd yn ystod y prynhawn.
- Cwrdd â staff o Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru
- Dysgu am weithgareddau a chefnogaeth leol ar gyfer pobl awtistig
- Cwrdd â staff a gwirfoddolwyr o sefydliadau a thimau lleol
- Cyfle i weld y bws profiad realaeth awtistiaeth
Gwrando ar gyflwyniadau’r siaradwr gwadd am niwroamrywiaeth:
- 1.30pm i 1.50pm: Bod yn niwroamrywiol
- 2.30pm i 2.50pm: Rhianta Cadarnhaol
- 3.30pm i 3.50pm: Niwroamrywiaeth yn y gweithle
Mae pob cyflwyniad yn cynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb 5 munud.
Dewch draw i ddarganfod mwy!
Cysylltwch â
jeni.andrews1@conwy.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau am y digwyddiad hwn.