Mae ymrwymiad statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a’r cyhoedd. Mae’r adroddiad hwn yn manylu ar raglen waith y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol blaenorol.
Pwrpas yr adroddiad blynyddol yw nodi taith yr awdurdod lleol tuag at welliant wrth ddarparu gwasanaethau i bobl sy’n gofyn am wybodaeth, cyngor a chymorth ac unigolion a gofalwyr sy’n derbyn gofal a chefnogaeth. Dan ofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) mae’n rhaid i’r adroddiad ddangos sut mae Awdurdodau lleol wedi hyrwyddo lles a chyrraedd y safonau lles.