Manylion y cwrs:
Mae’r cwrs tair awr hwn yn helpu gofalwyr i ddeall a bodloni safonau Iechyd a Diogelwch ac mae’n darparu’r wybodaeth a’r sgiliau i adnabod a lleihau risgiau cyffredin yn y cartref. Mae’r cwrs yn dysgu Gofalwyr Maeth beth yw eu cyfrifoldebau cyfreithiol o fewn y Safonau Gofal Maeth yn ymwneud ag iechyd a diogelwch.
Fe fydd y cwrs yn galluogi’r rhai sy’n mynychu i ddeall y gwahaniaeth rhwng perygl a risg yn ogystal ag amlinellu achosion mwyaf cyffredin damweiniau a helpu i nodi’r prif beryglon yn y cartref. Fe fydd gofalwyr yn dysgu sut i leihau'r risg o wenwyn a pheryglon trydanol a sut i greu cynllun diogelwch tân.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
25 Hydref 2022 (AM) |
9.30am-12.30pm
|
Zoom |
Able Training |
Gwasanaethau Targed – Gofalwyr Maeth, y Tîm Maethu |
25 Hydref 2022 (PM) |
1pm-4pm |
Zoom |
Able Training |
Gwasanaethau Targed – Gofalwyr Maeth, y Tîm Maethu |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Canlyniadau’r cwrs:
- Adnabod cyfrifoldebau cyfreithiol o fewn y Safonau Gofal Maeth yn ymwneud ag iechyd a diogelwch
- Rhestru achosion mwyaf cyffredin damweiniau
- Adnabod prif beryglon o fewn y cartref
- Deall y gwahaniaeth rhwng perygl a risg
- Rhestru’r mesurau rheoli yn nhrefn pwysigrwydd
- Lleihau'r risg o wenwyn a pheryglon trydanol
- Creu cynllun diogelwch tân
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.