Gweithwyr CBSC
A wnewch chi gwblhau’r T2 sydd ynghlwm a’i anfon at sc.training@conwy.gov.uk. Sicrhewch eich bod wedi nodi dyddiad y cwrs rydych yn dymuno ei fynychu.
Byddwn yn cadw lle ar eich rhan ac anfon y ddolen i fynychu Hyfforddiant Gwrth Radicaleiddio Prevent.
Archebwch eich lle ar eich cwrs dewisiol gan ddefnyddio’r ffurflen gywir isod ac i Weithwyr Sector Preifat, Annibynnol a Gwirfoddol
Nodau ac amcanion y cwrs:
Drwy fynychu’r sesiwn hyfforddi hon byddwch yn gallu:
- Cael dealltwriaeth o Agenda Atal Eithafiaeth y llywodraeth a’r ddyletswydd y mae’n ei gosod ar unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau dethol.
- Gwerthfawrogi bod Prevent yn seiliedig ar unigolion diamddiffyn a’u diogelu rhag ideoleg eithafol dreisgar, beth bynnag fo'r achos neu'r canlyniad.
- Cael eglurhad o rai camdybiaethau a chamddealltwriaeth cyffredin ynglŷn â Prevent. Yn arbennig y cyhuddiadau ysbïo sydd wedi stigmateiddio ymgyrch Prevent ers iddi ddechrau.
- Cael ymwybyddiaeth o nodweddion / ymddygiad / dangosyddion cyffredin sy’n amlwg yn yr unigolion hynny sydd mewn perygl o gael eu perswadio i ymgymryd â thrais eithafol.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
23 Mawrth 2023
|
3pm - 4pm
|
Teams |
North Wales Police – DS Richard Rees |
Gwasanaethau a Dargedir – Pob aelod o staff sy'n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol |
20 Ebrill 2023
|
10am - 11am |
Teams |
North Wales Police – DS Richard Rees |
Gwasanaethau a Dargedir – Pob aelod o staff sy'n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol |
2 Mai 2023 |
2pm - 3pm |
Teams |
North Wales Police – DS Richard Rees |
Gwasanaethau a Dargedir – Pob aelod o staff sy'n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol |
23 Mai 2023 |
10am - 11am |
Teams |
North Wales Police – DS Richard Rees |
Gwasanaethau a Dargedir – Pob aelod o staff sy'n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol |
15 Mehefin 2023 |
10am - 11am |
Teams |
North Wales Police – DS Richard Rees |
Gwasanaethau a Dargedir – Pob aelod o staff sy'n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol |
20 Mehefin 2023 |
1pm - 2pm |
Teams |
North Wales Police – DS Richard Rees |
Gwasanaethau a Dargedir – Pob aelod o staff sy'n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol |
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd ar y cwrs cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.