Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
20 Chwefror 2019 |
9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru 9:30am - 2:30pm |
Porth Eirias, Y Promenâd, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8HH |
Sharon Garland / Mel Everley |
Gwasanaethau Targed Cymorth ac Ymyrraeth i Deuluoedd, Plant sy'n Derbyn Gofal, Gofalwyr Maeth Grŵp Targed Gofalwyr Maeth, Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol, Staff Glan yr Afon. |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Trosolwg o’r cwrs
- Mae llawer o bobl ifanc mewn gofal wedi profi amrywiaeth o anawsterau yn eu bywydau. Gall rhai fod o gartrefi a chymdogaethau lle mae defnyddio cyffuriau yn rheolaidd yn arferol. Gallai hyn yn ei dro effeithio ar eu hagweddau eu hunain at gamddefnyddio sylweddau.
- Mae’r cwrs hwn yn darparu canllaw ymarferol i ofalwyr maeth a Gweithwyr Cymdeithasol ar dueddiadau cyffuriau presennol a sut i ddarparu cyngor a chymorth i bobl ifanc yn eu gofal.
- Mae’r cwrs yn addas ar gyfer pob gofalwr maeth a staff gofal maeth sydd angen gwybodaeth ddiweddar am faterion cyffuriau ac alcohol.
Amcanion dysgu
- Archwilio sut a pham bod tueddiadau cymryd cyffuriau yn newid.
- Nodi sylweddau penodol ac arwyddion o’u defnydd.
- Cael dealltwriaeth o’r effaith y mae rhieni sy’n camddefnyddio sylweddau yn ei gael ar blant.
- Egluro’r sefyllfa gyfreithiol i ofalwyr maeth o ran defnydd cyffuriau ar eu heiddo.
- Deall y canllawiau arfer da o ran cynghori a chefnogi person ifanc a all fod yn defnyddio cyffuriau.
- Deall lle gellir derbyn cymorth, gwybodaeth a chyngor pellach.
- Hyd y Cwrs: 5 awr
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.