Dyddiadau
- 2024: 3 Mehefin
- 2025: 9 Ionawr
Manylion y cwrs
- Amser: 9:30am tan 4:30pm
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Gwasanaethau targed: Lles Cymunedol, Tîm Anabledd, Cefnogi Teuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gofalwyr Maeth, Glan yr Afon
- Grŵp targed: Byddai’r cwrs hwn yn fuddiol i holl weithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys: Gofalwyr Maeth, Gweithwyr Cymdeithasol (yn arbennig y rhai yn eu 3 blynedd cyntaf o ymarfer), Gweithwyr Ymyriad Teuluol, staff preswyl
Nodau ac amcanion y cwrs
Gall rhieni sy’n defnyddio alcohol a chyffuriau eraill fod yn rhieni digon da, ond gall camddefnyddio sylweddau gan rieni achosi niwed difrifol i blant ar bob cam o’u bywydau, o’u beichiogi hyd at eu datblygiad fel oedolion. Bydd y cwrs hwn yn helpu ymarferwyr i asesu ac ymyrryd.
Cynnwys y cwrs:
- Myfyrio ar ein gwerthoedd mewn perthynas â defnyddio cyffuriau
- Ai defnyddio, defnyddio mewn ffordd broblemus ynteu gaethiwed sydd dan sylw?
- Gwahanol gyffuriau a’r hyn y maent yn ei wneud
- Sut y gallai effeithiau’r cyffuriau hyn amharu ar dasgau rhianta
- Sut y gallai hyn effeithio ar blant ar bob cam o’u datblygiad
- Beth y gallwn ni ei wneud i helpu
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd i unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.